Mae’r ffaith fod pobol yn camgymryd dementia am henaint yn golygu bod 60% o’r bobol sy’n byw â dementia ac sydd â symptomau yn aros blwyddyn cyn cael diagnosis.
Mae Cymdeithas Alzheimer wedi cynnal arolwg ymhlith mwy na 1,000 o bobol, gan ddatgelu bod 63% o bobol â symptomau wedi byw â’r cyflwr am fwy na blwyddyn cyn sylwi a chyn cael diagnosis, gyda 10% o’r rheiny yn aros dros ddwy flynedd.
Daw’r ymchwil ar ddechrau Wythnos Gweithredu Dementia (Mai 16-22).
Un o’r rhesymau am yr oedi cyn cael diagnosis, triniaeth, gofal a chefnogaeth, yn ôl yr arolwg, yw’r ffaith fod cynifer â 42% o bobol yn cymryd mai henaint yw’r symptomau.
Er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, mae Cymdeithas Alzheimer wedi lansio ymgyrch newydd i annog pobol sy’n poeni amdanyn nhw eu hunain neu anwyliaid i geisio cymorth er mwyn cael diagnosis.
Mae’r elusen wedi bod yn cydweithio â chlinigwyr er mwyn hwyluso’r broses o gael diagnosis, gan ddatblygu rhestr wirio newydd sydd ar gael ar wefan newydd, gan dynnu sylw at newidiadau sy’n gallu cael eu hachosi gan ddementia.
Mewn fideo newydd heddiw (dydd Llun, Mai 16), mae’r elusen yn dangos sut gall symptomau dementia, megis gofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro, gael ei gamgymryd fel arwydd o henaint.
Henaint neu salwch?
“Nid mynd yn hen yw gofyn yr un cwestiwn drosodd a throsodd, mynd yn sâl yw e,” meddai Cheryl James, Rheolwr Ardal Cymdeithas Alzheimer Cymru.
“Os ydych chi’n poeni amdanoch chi eich hun neu rywun rydych chi’n eu caru, cymerwch y cam cyntaf yr Wythnos Gweithredu Dementia hon – dewch at Gymdeithas Alzheimer am gefnogaeth.
“Mae canfyddiadau syfrdanol ein harolwg sydd wedi’i gyhoeddi heddiw’n dangos pa mor beryglus yw brwydro symptomau dementia ar eich pen eich hun ac oedi cyn cael cymorth.
“Gall, fe all cael diagnos fod yn frawychus, ond mae’n werth e.
“Dywedodd mwy na naw ym mhob deg o bobol â dementia wrthym eu bod nhw wedi elwa wrth gael diagnosis – fe roddodd fynediad hanfodol iddyn nhw i driniaeth, gofal a chefnogaeth, ac amser gwerthfawr i gynllunio at y dyfodol.
“Gyda’r pandemig yn achosi i gyfraddau diagnosis ostwng, mae’n bwysicach nag erioed ceisio cymorth.
“Does dim rhaid i chi wynebu dementia ar eich pen eich hun, rydym yma i gefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio.”
Arolwg
Fe wnaeth yr arolwg ddatgelu hefyd fod 20% o’r rheiny a gafodd ddiagnosis ar ôl dwy flynedd ond wedi cael diagnosis ar ôl mynd i argyfwng, a phob un ohonyn nhw’n ei chael hi’n anodd gofalu amdanyn nhw eu hunain, 51% yn ei chael hi’n rhy anodd ymdopi, a 33% yn cael damwain cyn ceisio cymorth.
Mae bron i 50,000 o bobol yng Nghymru’n byw â dementia, a 900,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig.
Bydd mwy na 200,000 yn cael dementia eleni, sef un person bob tair munud, ond gyda chyfraddau diagnosis ar eu lefel isaf ers pum mlynedd, mae degau o filoedd o bobol yn byw â dementia heb yn wybod iddyn nhw ac heb fynediad at y gofal a chefnogaeth hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw.
Mewn arolwg arall gan Gymdeithas Alzheimer, fe ddaethon nhw i’r casgliad bod diffyg gwybodaeth am symptomau dementia ac ofn yn rhwystrau sylweddol sy’n atal pobol rhag ceisio cymorth, gyda 24% o bobol yng Nghymru’n cyfaddef na fydden nhw’n adnabod y symptomau a 20% yn dweud na fydden nhw’n mynd at feddyg teulu am ddiagnosis oherwydd ofn.
Mae teulu a ffrindiau’n chwarae rôl allweddol wrth helpu anwyliaid i adnabod symptomau dementia, ond cyfaddefodd 41% o bobol yng Nghymru y bydden nhw’n teimlo’n anghyfforddus wrth sôn am eu pryderon wrth anwyliaid pe bai ganddyn nhw symptomau.
Dywedodd 32% o bobol yn y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n gwadu bod ganddyn nhw symptomau neu ddim eisiau cael diagnosis, a bod hynny wedi eu hatal nhw rhag ceisio cymorth.
Nigel Hullah
Ymhlith y rhai sy’n byw â dementia yng Nghymru mae Nigel Hullah, sy’n 68 oed, yn byw yn Abertawe ac yn gyn-gyfreithiwr hawliau dynol.
Bu’n rhaid iddo frwydro am bedair blynedd i gael diagnosis o fath prin o ddementia.
“Mae diagnosis cyflym yn eich helpu chi i wneud synnwyr o’ch sefyllfa,” meddai.
“Rydych chi’n cael mynediad at wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth drosoch chi eich hun a’ch anwyliaid.
“Mae’r manteision yn cynnwys gwybod am y therapïau sydd ar gael ac sy’n gwella ac yn gwneud y mwyaf o’ch sgiliau a’ch gallu gwybyddol.
“Mae diagnosis yn eich helpu chi i egluro’ch sefyllfa i’ch teulu, ffrindiau a chydweithwyr, fel eu bod nhw’n gwybod beth sydd wedi newid yn eich bywyd ac yn gallu’ch helpu chi i gynllunio at y dyfodol a gwneud y mwyaf o’ch ansawdd bywyd.”
Sgyrsiau amserol ac effeithiol
“Mae’n hanfodol i gleifion, eu teuluoedd a meddygon teulu bod sgyrsiau sydd â’r potensial o arwain at ddiagnosis o ddementia’n amserol ac effeithiol,” meddai Dr Jill Rasmussen, Cynrychiolydd Clinogol Dementia yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon Teulu.
“Mae’r rhestr wirio newydd sydd wedi’i datblygu gyda Chymdeithas Alzheimer yn declyn syml, rhad ac am ddim i helpu cleifion a’u teuluoedd i gyfathrebu eu symptomau a’u pryderon yn glir yn ystod apwyntiad sydd yn aml yn digwydd o dan bwysau amser.
“Gallai’r adnodd hwn wneud gwahaniaeth go iawn wrth adnabod y bobol hynny sydd angen cael eu cyfeirio ar gyfer gwerthusiad a diagnosis mwy manwl o’u problemau.
“Rydym yn gofyn i unrhyw un sy’n poeni am symptomau dementia posib ddefnyddio’r rhestr wirio a’i rhannu gyda’u tîm gofal sylfaenol.”
Mae modd cael cymorth drwy’r wefan //alzheimers.org.uk/memoryloss neu drwy ffonio 0333 150 3456 i gael gwybodaeth yn Saesneg neu yn Gymraeg ar 0330 094 7400.
Os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf y sawl sy’n eu ffonio, mae modd i Gymdeithas Alzheimer drefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.