Bu i gyn-flaenwr Cymru ddiodde’ o iselder ar ôl rhoi’r gorau i chwarae rygbi ar y lefel uchaf, a throi at ddringo mynyddoedd er mwyn herio’i hun…

Yn gyn-chwaraewr rygbi gyda Chasnewydd, Pontypridd, y Rhyfelwyr Celtaidd, Leeds, Perpignan, y Dreigiau a Chymru, fe wnaeth Richard Parks droi at heriau o fath gwahanol ar ôl ymddeol o fyd y bêl hirgron, a hynny mewn ymgais i geisio achub ei fywyd yn ystod pwl o iselder.