Dyw straeon am ynni niwclear – fel y gwastraff – ddim yn diflannu’n gyflym. Ynghanol yr argyfwng tanwydd, mae atomfeydd ar y gorwel eto. Ac, i rai fel Ifan Morgan Jones, yn fygythiad ar y gorwel i bethau llawer mwy …
“… petai Cymru’n cael un neu hyd yn oed nifer o orsafoedd ynni niwclear, mi allai fod yn ddadl effeithiol iawn yn erbyn annibyniaeth i Gymru, neu hyd yn oed fwy o ddatganoli ariannol. ‘Sut fydd Cymru’n talu am Wylfa B?’… Byddai gorsaf niwclear hefyd yn cymhlethu pethau’n wleidyddol i unrhyw wladwriaeth ar wahân. Un ysgogiad na chafodd fawr o sylw i Rwsia oresgyn Wcráin yw bod ganddi hi bedair atomfa, a godwyd i gyd tra’r oedd hi’n rhan o’r Undeb Sofietaidd, ac sy’n bwydo grid trydan Rwsia… mae enw cynllun niwclear Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ‘Great British Nuclear’, yn gliw da fod hwn, i raddau helaeth, yn gynllun sy’n bwriadu clymu’r DU at ei gilydd am byth.” (nation.cymru)
Dilyn yr un trywydd wnaeth Dafydd Glyn Jones ac esbonio’r wers ychydig yn fwy uniongyrchol …
“Mae yma eisoes ddwy hen atomfa y bydd raid eu tendiad hyd ddiwedd amser: rhagor o’r rhain a dyna lyncu cyfran helaeth o gyllid gwladwriaeth fechan fel bod pob gwasanaeth a darpariaeth arall yn dirywio’n ddim… rhan o’r prosiect unoliaethol yw’r strategaeth ynni sydd mor annwyl gan y llywodraeth Geidwadol hon. Ie, ‘Great British Nuclear’ yn wir. Ond amlwg nad yw Plaid Dwlali Cymru’n gweld hyn. Neges glir i fudiad YesCymru felly. Os niwclear, No Cymru.” (glynadda.wordpress.com)
Fyddai treth dwristaidd ddim yn talu am atomfeydd ond mae’n cael ei thrafod o ddifri’… a’i beirniadu hefyd. Gwrthod un elfen o’r feirniadaeth y mae Leigh Jones …
“Mae honiadau y byddai ‘treth dwristaidd’ newydd yng Nghymru yn wrth-Seisnig bron mor wirion nes haeddu eu hanwybyddu. Yn ogystal ag ymwelwyr tramor, byddai’r dreth yn cael ei thalu gan Gymry wrth ymweld â rhannau eraill o’u gwlad eu hunain – ac fe fydden nhw’n hapus i dalu. Os yw sylwebwyr Seisnig yn poeni bod treth dwristaidd Gymreig yn eu targedu nhw’n annheg, a dim ond nhw, efallai fod hynny’n dweud llawer am eu cydwybod a’r gwerth y maen nhw’n ei gymryd am ddim ar hyn o bryd oddi ar gymunedau Cymreig.” (thenational.wales)
A sôn am bobol o dramor, mae’r polisi newydd o anfon ceiswyr lloches i Rwanda wedi dod o hyd i ochr lai caredig John Dixon …
“Fel rheol, dw i’n cefnogi’r syniad y dylai’r Deyrnas Unedig ymddwyn yn hael tuag at bobol sy’n dod i’r glannau hyn i ddianc rhag rhyfel a gormes, a hyd yn oed rai sy’n dianc rhag tlodi… yn enwedig o gofio rôl hanesyddol y DU yn creu’r tlodi y maen nhw’n dianc rhagddo. Er hynny dw i’n cyfadde’ wrth ddarllen newyddion ddoe [am bolisi Rwanda] fod y syniad angharedig wedi croesi fy meddwl y gallai’r Deyrnas Unedig heddiw fod yn lle llawer caredicach ac addfwynach petai Mr a Mrs Patel, Mr a Mrs Sunak a Mr a Mrs Javid wedi cael eu hatal ar y ffin a’u hedfan i ganolfan gadw yn Rwanda, a phetai Mr a Mrs Johnson wedi cael eu rhwystro rhag dod â phlant oedd wedi eu geni yn yr Unol Daleithiau i mewn i’r DU…” (borthlas.blogspot.com)