Gyda’r wlad yn ethol cynghorwyr sir ymhen pythefnos, Huw Bebb sy’n cael cipolwg amserol ar rai o ryfeddodau llywodraeth leol yng Nghymru…
Peth digon od ydi llywodraeth leol ar brydiau, ydach chi ddim yn meddwl?
Gall y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan gynghorau sir gael effaith fwy arwyddocaol ar ein bywydau o ddydd i ddydd na’r rhai sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, neu San Steffan.
Pam bod un arall o leoliadau cerddoriaeth byw Caerdydd yn cau er mwyn gwneud lle i fwy fyth o fflatiau myfyrwyr? Oherwydd penderfyniad y cyngor sir.
Pam bod perchennog y tŷ haf drws nesaf yn flin bod ei ail gartref nawr yn costio mwy iddo mewn trethi? Y cyngor sir eto.
A phwy sydd yn cael y bai am y “blydi baw ci sydd ymhob man”? Yn aml, y cyngor sy’n cael y bai am beidio ei lanhau.
Y peth am etholiadau lleol yw mai materion lleol sydd ar agenda’r ymgeiswyr ac sy’n dylanwadu ar y pleidleiswyr – mae’r cliw yn yr enw.
Ond lleiafrif o’r boblogaeth sy’n pleidleisio yn yr etholiadau hyn.
42% o Gymry wnaeth bleidleisio yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017, ac roedd y ffigwr hyd yn oed yn is yn 2012 – 38.6%.
A dim ond £14,000 yw cyflog cynghorydd, tra bod Aelod o Senedd Cymru ar £68,000 ac Aelod Seneddol yn San Steffan ar £82,000.
Dydy hynny ddim yn ddigon i gynnal un person, heb sôn am deulu.
Ac ella fod yna gliw yna pam fod nifer o gynghorwyr yn eich ardal yn Daid neu Nain i rywun yr ydych chi’n adnabod!
Mae hyn oll yn arwain at fath gwahanol o wleidyddiaeth nag sydd i’w weld ar lefel genedlaethol.
Clymbleidio yn gweithio ym Mhowys
Rhywbeth sydd i’w weld yn llawer iawn mwy aml mewn cynghorau sir ydi clymbleidio.
Yn wir, mae yna glymblaid mewn grym yn saith o 22 awdurdod lleol Cymru – bron i draean.
Ar lefel genedlaethol mae clymblaid yn cael ei gweld fel rhywbeth sy’n arwain at lywodraethau gwan, rhanedig ac sydd fel arfer yn arwain at y blaid leiaf yn dioddef yn yr etholiad nesaf.
Fodd bynnag, mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Powys a Cheidwadwr sydd mewn clymblaid gydag aelodau annibynnol yn dweud bod y glymblaid yno yn “gweithio’n dda”.
“Dw i’n meddwl bod safon y gwasanaethau mae’r cyngor yn cyflwyno wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf,” meddai Aled Davies.
“Er enghraifft, gydag ysgolion mae [yr arolygwr addysg] Estyn yn hapus gyda’r cyfeiriad rydyn ni’n ei ddilyn ac maen nhw’n hapus gyda’r trawsnewidiad yn y sector addysg ym Mhowys.
“Rydyn ni yn y broses o adeiladu ysgol newydd Gymraeg yn y Trallwng ac mae hwnnw yn mynd i fod yn un o’r ysgolion ynni hybrid cyntaf, felly bydd o’n rhad i’w redeg ond ychydig yn fwy costus i’w adeiladu.
“Ar hyn o bryd rydyn ni’n gwario 40% o’n cyllid ni ar addysg felly mae hwnna yn wasanaeth arbennig o bwysig i ni ym Mhowys.
“Mae o’n wasanaeth anodd iawn i’w redeg hefyd oherwydd mae Powys mor fawr, mae’n cyfro hanner tiriogaeth y wlad. Ond mae ein trefi a’n pentrefi ni yn fach felly mae’n anodd iawn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael chwarae teg.
“Fel dw i’n dweud, mae Estyn yn hapus iawn gyda’r cyfeiriad yr ydyn ni’n mynd ynddo oherwydd dros y degawd diwethaf [cyn i’r glymblaid ffurfio] roedd yna adroddiad ar ôl adroddiad gan Estyn oedd yn negyddol dros ben ynglŷn ag addysg.
“Ond ers i ni ffurfio’r glymblaid ym Mhowys a chyflwyno’r portffolio addysg newydd, rydyn ni wedi troi pethau rownd.
“Ac mae yna sawl esiampl arall o’r hyn rydyn ni’n ei wneud ar draws Powys o ran buddsoddiad ychwanegol yn ein gwasanaethau ni.”
Pleidiau ymylol
Mae pleidiau ymylol yn rhywbeth arall sy’n amlycach mewn llywodraeth leol.
Enghraifft amlwg yw Llais Gwynedd, wnaeth greu storm yng Ngwynedd ar ôl ffurfio yn 2008 i wrthwynebu cau degau o ysgolion y sir, a llwyddo i fygwth rheolaeth unigol Plaid Cymru o’r cyngor yn etholiad 2012.
Un arall sydd ag asgwrn i’w grafu gyda’r Blaid ydi Neil McEvoy.
Ers cael ei ddiarddel o Blaid Cymru yn 2018 a sefydlu plaid Propel yn 2020 mae’r gŵr o Gaerdydd wedi bod yn benderfynol o barhau yn amlwg yn y byd gwleidyddol yng Nghymru, er nad yw bellach yn Aelod o Senedd Cymru.
Dyma’r etholiadau cyntaf pan mae Propel wedi gallu ymgyrchu yn y cnawd a chnocio drysau, ac mae’r arweinydd yn mynnu mai dim ond megis dechrau mae ei blaid.
“Mae hi’n grêt bod allan o lockdown a dychwelyd i ryw fath o normalrwydd gwleidyddol,” meddai Neil McEvoy.
“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi dioddef fwy nag unrhyw un arall, oherwydd doedden ni ddim yn gallu lansio’r blaid yn iawn, doedden ni ddim yn ymgyrchu oherwydd bod hynny yn anghyfreithlon.
“Felly mae hwn yn rhan hanfodol o’n datblygiad ni [fel plaid] oherwydd mae gennym ni lawer o aelodau ifanc brwdfrydig sydd eisiau gwneud y gorau dros eu cymunedau.
“Mae gennym ni hefyd lot o aelodau sydd efallai heb roi eu henwau ymlaen i sefyll y tro hwn, ond fydd yn gwneud y tro nesaf.
“Mae gennym ni 48 ymgeisydd ar draws Cymru, yn Ynys Môn, Caerdydd, Powys, Bro Morgannwg, felly dipyn o drawstoriad.
“Rydyn ni wastad wedi bod gyda diwylliant o hunan gynhaliaeth yn y blaid.
“Mae hynny wedi’i blethu gyda chred mewn gweithio ar y cyd fel cymunedau hefyd.
“Mae pob un o’n polisïau ni wedi dod gan aelodau ac mae yna sawl polisi sydd yn y maniffesto fyddai ddim yna oni bai bod pobl wedi ymuno â’r blaid a chynnig eu barn.
“Rydym ar ddechrau taith a does neb sy’n dechrau plaid wleidyddol yn disgwyl cael llwyddiant dros nos.
“Ond nawr rydyn ni’n symud tuag at sefyllfa lle’r ydym yn gynaliadwy’n ariannol fel plaid.
“Mae gennym ni oddeutu 500 o aelodau ar draws Cymru ac mae gennym ni nifer parchus o ymgeiswyr yn sefyll.
“Mewn 12 mis mae hynny wedi bod yn gynnydd eithaf da, ac os byddwn ni’n parhau i wneud cynnydd ar y raddfa yma yna dw i’n credu y byddwn ni’n edrych ar dirlun gwleidyddol dra gwahanol erbyn 2026 pryd byddwn ni’n cystadlu yn etholiadau’r Senedd.”
“Gormod o gynghorwyr”
Heb os nac oni bai, un broblem fawr gyda llywodraeth leol yw’r ffaith bod cymaint o gynghorwyr yn cael eu dewis yn awtomatig, am nad oes neb am eu herio nhw mewn etholiad.
Mae naw o’r 22 o gynghorau sir yng Nghymru yn gweld rhai o’u cynghorwyr yn cael eu hethol heb orfod sefyll etholiad, a hynny ers bron i fis cyn y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai.
Ac mae’r broblem ar ei gwaethaf yng Ngwynedd, lle mae 28 allan o 69 o gynghorwyr y sir yn dod yn gynghorwyr heb orfod sefyll etholiad.
Mae hyn yn golygu na fydd 30,722 o bleidleiswyr y sir yn cael dewis ymgeisydd, gan na fydd etholiad yn eu wardiau nhw.
Ar draws Cymru bydd 74 o gynghorwyr yn cael eu dewis heb orfod wynebu etholiad.
Mae’r broblem yn symptom o system o ethol ‘First Past the Post’, yn ôl Jess Blair, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yng Nghymru.
“I dros 100,000 o bleidleiswyr yn etholiadau Cymru mae etholiadau mis Mai wedi cael eu canslo i bob pwrpas,” meddai.
“Etholiadau lleol yw sylfaen ein democratiaeth – cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ynghylch sut mae eu hardal leol yn cael ei rhedeg ac, yn bwysig, dros bwy sy’n eu cynrychioli.
“Ond eto, gwrthodir llais i filoedd o bleidleiswyr gyda’r canlyniadau yn cael eu penderfynu wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.
“Mae seddi heb wrthwynebiad yn symptom arall eto o’n system ‘First Past the Post’ sydd wedi torri – un sy’n creu seddi diogel i rai ymgeiswyr a phleidiau.”
Un cynghorydd sir sydd ddim yn gorfod wynebu etholiad yw Olaf Cai Larsen, sy’n cynrychioli ward Seiont yng Nghaernarfon ac yn aelod amlwg o Blaid Cymru yn y dref.
Mae yn credu bod y feirniadaeth gyhoeddus mae cynghorwyr yn ei derbyn yn un ffactor pam nad oes mwy eisiau sefyll etholiad i gael gwneud y gwaith.
Ac er ei fod yn dweud bod y sefyllfa yn “annerbyniol”, mae’n cyfaddef ei fod yn teimlo “elfen o ryddhad” nad oes ganddo wrthwynebwyr.
“O siarad yn bersonol, mi faswn i’n dweud celwydd taswn i’n dweud bod yna ddim rhyw elfen o ryddhad mod i ddim yn wynebu etholiad,” meddai Olaf Cai Larsen wrth golwg360 yn ddiweddar.
“Hynny ydi, bod etholiad yn golygu gwaith caled iawn.
“Ond o ran y system ddemocrataidd, mae o’n amlwg yn hollol annerbyniol bod cymaint o bobol yn mynd i mewn heb orfod sefyll etholiad.
“I’r system weithio’n iawn mae o’n bwysig bod – nid yn unig cynghorwyr, ond unrhyw aelod etholedig – yn sefyll etholiad bob pum mlynedd a bod etholwyr yn gallu dod i gasgliad ynglŷn â’u record nhw.
“Mae o’n anffodus iawn nad ydi hynny yn digwydd mor aml ac y dyla fo.
“Mae yna nifer o resymau am y sefyllfa, mae’n debyg mai un o’r rhesymau ydi bod yna ormod o gynghorwyr,” meddai wedyn.
“Mae yna nifer o gynghorau yng Nghymru, os nad y rhan fwyaf ohonyn nhw, sydd â mwy o gynghorwyr nag sydd yna o aelodau etholedig yn Senedd Cymru.
“Dw i’n meddwl bod gan Gyngor Gwynedd 75 o gynghorwyr tra bod gan Senedd Cymru 60 o aelodau.
“Rheswm arall posib ydi bod hi yn rôl lle mae yna lefel uchel iawn o feirniadaeth ar gynghorwyr, ac mae yna lefel isel iawn o gyflog i’r rhan fwyaf o gynghorwyr.
“Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n cael £14,000.
“I lot o bobol sydd mewn gwaith, dydy o ddim gwerth iddyn nhw [fod yn gynghorwyr]. Felly mae faint o bobol sy’n fodlon rhoi eu henwau ymlaen yn cael ei gyfyngu i bobol sydd ddim yn ddibynnol ar yr incwm yna a phobol sydd â chroen tew hefyd.”