Mae un o’n prif delynorion am fynd ar daith yn yr hydref cyn ymddeol yn 2023…

Ar drothwy ei nawfed degawd, mae un o fawrion byd y delyn yng Nghymru, Elinor Bennett, yn cyhoeddi ei bod hi am ymddeol y flwyddyn nesaf.

Er mwyn canu’n iach, a rhoi hwb iawn i’r delyn ar lawr gwlad am y tro olaf, mae hi am fynd ar daith drwy Gymru yn yr hydref, yn cynnal dosbarthiadau a chyngherddau.