Yn rhinwedd ei swydd mae Sarjant Raymond Williams wedi gweld cyrff marw a chysuro teuluoedd mewn galar.

Ond nid yw’r Rhinygll, sy’n dod o’r Groeslon yn Nyffryn Nantlle, yn difaru dim ar ei benderfyniad i ymuno â Heddlu’r Gogledd pan oedd yn 30 oed.

Dechreuodd blismona yn nhrefi Porthmadog a Phwllheli, ond mae’n aelod o’r Uned Plismona Ffyrdd ers 2011, ac erbyn hyn yn Ymchwilydd Arweiniol i Wrthdrawiadau Angheuol ac Anafiadau Difrifol.