Mae gan Gymru glybiau sy’n galluogi merched ifanc i gymdeithasu a gwneud ffrindiau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg…

Wrth i’r olaf o gyfyngiadau Covid godi dros Gymru, bu Clybiau Gwawr dros y wlad yn ailafael yn eu gweithgareddau.

O nosweithiau ioga i dripiau ar y Fenai, ac o wers padlfyrddio i sesiwn steilio dillad, mae’r digwyddiadau yn gyfle i fenywod ifanc ac ifanc eu hysbryd gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.