Mae llyfr o storïau arswyd sydd â blas y cynfyd yn bwrw golwg ddeifiol ar y Gymru gyfoes…

Hen lenyddiaeth a chwedlau’r Cymry yw sail casgliad cyntaf o storïau byrion yr awdur Peredur Glyn, Pumed Gainc y Mabinogi.

Storïau byrion arswydus sydd yn y llyfr; storïau gafaelgar, llawn antur a ffantasi fel y Mabinogi eu hunain. Ond nid addasiadau neu ddiweddariad o’r hen chwedlau hynny mohonyn nhw.