Mae’r ffermwr Gareth Wyn Jones wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn gwrthwynebu cefnogaeth un o bwyllgorau’r Senedd i wahardd rasio milgwn.
Dywedodd y Pwyllgor Deisebau heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 15) eu bod yn cefnogi’r gwaharddiad.
Daw’r argymhelliad wedi i ddeiseb i’r Senedd gan elusen Hope Rescue gasglu dros 35,000 o lofnodion, gan alw am wahardd y gamp ledled y Deyrnas Unedig.
Mae mwyafrif aelodau Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn cefnogi gwaharddiad graddol ar rasio milgwn yng Nghymru, yn ogystal ag argymhellion i’r llywodraeth ar ddyfodol y gamp yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pryderon ac y byddan nhw’n ystyried yr argymhellion.
‘Wedi eu magu i rasio’
Ond nid pawb sy’n cefnogi nac yn cytuno â’r gwaharddiad.
Yn ôl Gareth Wyn Jones, y ffermwr mynydd o Lanfairfechan sydd wedi bod yn llafar ei farn ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn penderfyniad y pwyllgor, mae’r cam yn mynd yn rhy bell.
“Lle ydan ni’n mynd i roi’r gorau i stopio bob dim?” meddai mewn fideo ar Twitter.
“Rydan ni’n mynd i stopio rasys cŵn, rydan ni’n mynd i stopio i gŵn agility, flyball, search and rescue.
“Mae pob ci wedi cael ei fagu am bwrpas, ac mae’r pwrpas yna i hela, i weithio.
“Mae’r cŵn yma wedi cael eu magu i rasio.
“Roedden nhw’n cael eu magi i hela cwningod, i hela llwynogod a sgwarnogod.
“Mae’r rhain i gyd yn rhan annatod o ni fel pobol.
“A dwi jest yn rili, rili blin bo’ fi’n cael gwrando ar rywun sydd eisiau stopio pethau eto.
“Mae bob dim wedi mynd yn health and safety, dydyn ni ddim yn cael gwneud dim byd.
“Mae rhywbeth yn brifo, neu mae rhywbeth yn sâl, neu… Dw i ddim yn gwybod.
“Mae o jest yn bonkers.
“Mae’r cŵn yna wrth eu bodd yn rhedeg, ac os ydi pobol yn stopio hynna, wedyn dw i ddim yn gwybod lle mae o’n mynd i orffen.
“Rasys ceffylau, trotio, mae yna gymaint mae anifeiliaid yn cael eu defnyddio.”
Rant bora ma @DylanEbz @KateCrockett @BBCRadioCymru pic.twitter.com/kBEDHBEVsg
— Gareth Wyn Jones (@1GarethWynJones) December 15, 2022