Mae Tom Bevan, batiwr ifanc tîm criced Morgannwg, yn llygadu lle yn y tîm cyntaf y tymor nesaf, ar ôl treulio naw wythnos yn Academi Gary Kirsten yn Ne Affrica.

Treuliodd y chwaraewr 23 oed o Gaerdydd naw wythnos yn Cape Town, yn gweithio ar ei dechneg fatio ac ochr feddyliol y gamp – rywbeth tebyg i’r hyn wnaeth e y gaeaf diwethaf hefyd.

Mae e hefyd wedi chwarae yng Nghynghrair Ewrop T10 yn Sbaen, ac yn teimlo bod hynny wedi ei helpu i chwarae’r gêm undydd.

Yn ystod 2022, chwaraeodd e i Forgannwg am y tro cyntaf, gan sgorio canred.

“Mae ambell beth dw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn dechnegol ac yn eu mireinio y gaeaf yma, a gobeithio erbyn i’r tymor ddechrau y bydda i mewn lle da o ran yr hyn dw i wedi gweithio arno fe,” meddai.

“Ond, yr ochr feddyliol dw i wir wedi bod yn gweithio arni, a chadw at fy nghynllun ar gyfer gemau.

“Dw i’n mwynhau mynd i sesiwn yn y rhwydi, a herio fy hun go iawn i ymarfer fel pe bai’n gêm.

“Fy nod y tymor nesaf yw defnyddio’r profiadau hyn i wthio i fod yn chwaraewr rheolaidd yn y tîm cyntaf, ond dw i’n gwybod na fydd hyn ond yn digwydd trwy berfformio’n gyson ar draws pob fformat.

“Mae angen i fi sgorio rhediadau’n gyson, a dw i’n gwybod os galla i wneud hynny, y galla i helpu Morgannwg i ennill gemau o griced, fydd yn meddwl, gobeithio, y gallwn ni fel tîm fod yn gwthio i ennill tlysau.

“Mae chwarae fy ngêm gyntaf yn rywbeth dw i wedi breuddwydio amdano er pan o’n i’n fachgen, ac roedd y ffaith fod fy mam yno wrth gyflwyno fy nghap yn eiliad arbennig iawn.

“Heb gefnogaeth fy nheulu, fyddai hyn oll ddim wedi digwydd.

“Roedd hefyd yn deimlad braf i gael sgorio canred ar y Gnoll gyda fy nhad yn gwylio, ac mae’n rywbeth y bydda i’n ei gofio am weddill fy oes.”