Mae Jay Fulton, chwaraewr canol cae tîm pêl-droed Abertawe, yn awyddus i fanteisio ar elfennau positif eu gêm ddiwethaf yn erbyn Coventry, ar drothwy cyfnod prysur dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Roedd Coventry ar y blaen o 3-0 yn Arena CBS ar ddechrau’r ail hanner y penwythnos diwethaf, cyn i’r Elyrch daro’n ôl i’w gwneud hi’n 3-3 gan gipio pwynt gwerthfawr.

Bu’n rhaid i’r golwr Steven Benda wneud sawl arbediad campus, ond aeth y tîm cartref ar y blaen drwy beniad Jonathan Panzo, cyn i Jamie Allen a Viktor Gyokeres, cyn-ymosodwr yr Elyrch, ei gwneud hi’n 3-0.

Ond rhwydodd Joel Piroe wrth i’r Elyrch ddechrau taro’n ôl ar ôl 65 munud, cyn i Fulton rwydo’r ail a’r eilydd Liam Cullen y drydedd gyda’i gyffyrddiad cyntaf i’w gwneud hi’n 3-3 ar ôl 83 munud.

Mae’r Elyrch bellach wedi cipio 14 o bwyntiau o gemau lle maen nhw wedi bod ar ei hôl hi, a byddan nhw’n wynebu Reading, Watford a Burnley dros yr wythnosau nesaf.

‘Rhaid i ni gymryd y pethau positif’

“Mae mynd ar ei hôl hi o 3-0 yn destun siom,” meddai Jay Fulton.

“Rydyn ni wedi’n siomi gan y perfformiad yn awr gynta’r gêm, ond dw i’n meddwl bod taro’n ôl a sgorio tair gôl i gael pwynt yn y pen draw yn dangos cymeriad ac agosatrwydd y garfan.

“Rhaid i ni gymryd y pethau positif.

“Mae’r gallu i daro’n ôl o’r tu ôl yn rhinwedd da i’w gael, ond dydyn ni ddim eisiau galluogi’r tîm arall i fynd ar y blaen.

“Felly ydy, mae’n galonogol ar y naill law, ond mae ochr arall iddi hefyd.

“O sgorio tair gôl mewn 20 munud, rhaid i ni ddefnyddio hynny ond rhaid i ni weithio ar gael mwy o gyrff yn y cwrt cosbi.

“Roedd yn dda i Joel [Piroe] a Liam Cullen gael eu henwau ar y rhestr sgorwyr – rydych chi eisiau i’ch ymosodwyr sgorio goliau, a dyna rywbeth positif eto y gallwn ni geisio adeiladu arno.”