Olivia Breen, para-athletwraig yn y ras 100m T37-38, yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer 2022.

Bu’n dipyn o flwyddyn i’r Gymraes 26 oed, gafodd ei geni yn Guildford yn Surrey, wrth iddi gipio’r fedal aur yn y ras 100m T37-38 yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham, gan drechu Sophie Hahn, y ffefryn o Loegr.

Torrodd hi record bersonol yn y ras honno, gan orffen mewn 12.83 eiliad, a hithau’n gyd-gapten ar dîm Cymru gydag Osian Jones.

Dywedodd fod ennill y wobr yn “sioc” ond yn “anrhydedd enfawr”.

Wrth ennill y fedal, hi oedd y Gymraes gyntaf ar y trac i gipio medal yng Ngemau’r Gymanwlad ers Kay Morley, enillydd y ras 100m dros y clwydi yn Auckland yn 1990.

Mae tipyn o frwydr wedi datblygu rhwng Olivia Breen a Sophie Hahn dros y blynyddoedd, gyda Breen yn gorffen yn seithfed wrth i Hahn amddiffyn ei theitl Paralympaidd yn Tokyo.

Y wobr

Cafodd y panel ddewisodd enillydd gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ei gadeirio gan Nigel Walker, cyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, ac roedd yn cynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Leshia Hawkins (Prif Weithredwr Criced Cymru), y cyn-bêldroedwraig a chwaraewraig bêl-rwyd Nia Jones, ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.

Yn ôl y panel, Olivia Breen oedd eu dewis “unfrydol” am ei “pherfformiad rhagorol” yn ystod y flwyddyn.

Yn ôl Nigel Walker, roedd ei pherfformiad yn “un o uchafbwyntiau rhagorol y Gemau i gyd”.

Rhoddodd y panel glod hefyd i Menna Fitzpatrick am ennill medal yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf, i Gareth Bale am arwain tîm pêl-droed Cymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, ac i’r athletwr Jeremiah Azu am ei berfformiad ar y trac ac yn y maes yng Ngemau’r Gymanwlad ac ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Mae Olivia Breen bellach yn cystadlu yn y naid hir F38 hefyd, ac yn canolbwyntio ar Bencampwriaeth y Byd yn Paris fis Gorffennaf nesaf.

Er ei bod hi wedi anafu ar hyn o bryd, mae hi’n anelu i ennill medalau ac i berfformio’n well nag erioed yn Paris, meddai.