Mae Andrew RT Davies wedi beirniadu sylwadau pyndit pêl-droed yn cymharu hawliau dynol Qatar a’r Deyrnas Unedig.

Mewn llythyr at Ofcom, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn tynnu sylw at sylwadau gafodd eu gwneud gan Gary Neville yn ystod Cwpan y Byd yn Qatar.

Dywedodd Neville, dreuliodd ei yrfa gyfan fel chwaraewr gyda Manchester United cyn mentro i’r byd hyfforddi a darlledu, fod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn “demoneiddio gweithwyr rheilffyrdd [a] gweithwyr ambiwlans” ac yn “codi ofn ar nyrsys”.

Cafodd y sylwadau eu gwneud fel rhan o drafodaeth ehangach ar foesoldeb cynnal y twrnament mewn gwlad sydd dan y lach yn sgil eu record ar hawliau dynol.

“Ydy Gary Neville yn rhagrithiwr?” meddai Andrew RT Davies ar Twitter.

“Heb amheuaeth.

“A wnaeth e dorri rheolau Ofcom?

“Dw i wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Ofcom er mwyn cael gwybod.”

Y llythyr

“Mae hi’n glir fod y sylwadau hyn o natur wleidyddol bleidiol a rhagfarnllyd,” meddai Andrew RT Davies yn ei lythyr.

“Roedd hi felly’n gwbl amhriodol iddyn nhw gael eu darlledu fel rhan o ddarlledu digwyddiad chwaraeon rhyngwladol mawr.

“Hyd yn oed pe bai’r sylwadau’n cael eu hystyried yn addas, doedd dim ymdrech gan y cyflwynydd na’r pynditiaid eraill ar y rhaglen i herio’r safbwyntiau gafodd eu mynegi, neu i gynnig safbwynt gwahanol.

“Felly doedd y gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol yn amlwg ddim wedi’u hateb.”

Mae’n gofyn i Ofcom gynnal ymchwiliad, ac i “gymryd camau i sicrhau nad yw darllediadau digwyddiadau chwaraeon mawr yn y dyfodol yn y Deyrnas Unedig yn cael eu defnyddio i wthio agendâu gwleidyddol, a bod darlledwyr yn cael eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau”.

Wrth ymateb i sylwadau ar Twitter, dywedodd y byddai’r sylwadau’n fwy addas pe baen nhw’n rhan o drafodaeth ar raglen wleidyddol ond “doedden nhw ddim”, ac mae’n wfftio’r awgrym fod ei sylwadau’n rhan o “ddiwylliant o ganslo” pobol a safbwyntiau dadleuol.