Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney, perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, wedi cael gwobr rhyddid Wrecsam.

Mae’r ddau wedi cael eu cydnabod gan y Cyngor Sir yn dilyn eu gwaith i hyrwyddo’r ddinas a’r clwb pêl-droed lleol.

Mae disgwyl iddyn nhw dderbyn y wobr wyneb yn wyneb rywbryd yn 2023.

“Hoffem ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â chynnig Rhyddid Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ni,” meddai’r ddau mewn datganiad ar wefan y clwb.

“Byddwn yn parhau i hyrwyddo Wrecsam i’r byd ac yn annog pobol i siarad yn angerddol am ein cartref mabwysiedig.

“Mae’r berthynas waith rhwng y clwb a’r Cyngor yn un rydyn yn ei werthfawrogi.

“Rydym yn bositif iawn am y dyfodol gyda’n gilydd, wrth i ni edrych ymlaen at 2023.”