Rhowch gynnig ar geisio ateb cwestiynau ein Colofnydd Chwaraeon hollwybodus am yr hyn ddigwyddodd ar y meysydd chwarae yn 2022…

Cwpan y Byd 2022

  1. Pa dri tîm oedd yng Ngrŵp B gyda Chymru?
  2. Pwy sgoriodd unig gôl Cymru yn Qatar?
  3. Pwy sgoriodd i’r Unol Daleithiau yn erbyn Cymru?
  4. Pa ddinas yn Qatar fu’n cynnal gemau?
  5. Pwy oedd yr unig Gymro i gael cerdyn coch yn Qatar?
  6. Pa ddau chwaraewr Lloegr sgoriodd yn erbyn Cymru?
  7. Ym mha stadiwm chwaraeoedd y Cymry eu holl gemau?
  8. Pa un o’r Cymry wnaeth chwarae yn erbyn Lloegr, oedd gyda’r lleiaf o gapiau – wyth – tros ei wlad?
  9. Wrth ennill cap rhif 110 yn erbyn Iran, record pa chwaraewr ar gyfer y nifer mwyaf o gapiau, wnaeth Gareth Bale guro?
  10. Pa dîm oedd clwb proffesiynol cyntaf rheolwr Cymru, Robert Page?
  11. Pwy ennillodd Cwpan y Byd 2018?
  12. Pa un o wledydd Cwpan y Byd 2022 sydd efo’r boblogaeth leiaf?
  13. Beth yw cwrw swyddogol Cwpan y Byd?
  14. Beth yw enw mascot swyddogol Cwpan y Byd 2022?
  15. Pwy ennillodd gêm gyntaf y twrnamenet, gan guro Qatar 2-0?
  16. Ym mha un o’r gemau grŵp gwelwyd y fwyaf o goliau, sef wyth?
  17. Beth ydy enw’r Sbaenwr wnaeth ymddiswyddo o’i swydd yn rheoli’r tîm cenedlaethol ar diwedd ei twrnament?
  18. Sawl tîm wnaeth fethu sgorio’r un gôl yn y gemau grŵp?
  19. Yn erbyn pwy sgoriodd Portiwgal chwech o goliau yn Qatar?
  20. Pa dri gwlad fydd yn cynnal Cwpan y Byd 2026?

Pa chwaraewyr o garfan Cwpan y Byd Cymru sy’n cynrychioli’r clybiau isod?

21. Los Angeles FC
22. Nice
23. Leicester City
24. Tottenham
25. Rennes
26. Spezia
27. AFC Wimbledon
28. Burnley
29. Dundee United
30. Luton Town
31. MK Dons
32. Portsmouth
33. Huddersfield
34. Swindon
35. Sheffield United

Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad

36. Pa dîm gurodd Cymru 29-7 yng ngêm gyntaf y Chwe Gwlad?
37. Pwy giciodd ddrop gôl hwyr i helpu Cymru i guro’r Alban 20-17 yn yr ail gêm?
38. Pa chwaraewr Cymru ennillodd ei gap cyntaf yn erbyn rr Alban yn yr un gêm?
39. Beth yw enw’r tlws ennillodd Cymru am guro’r Alban?
40. Pa ddau chwaraewr Cymru oedd yn ennill eu canfed capiau i tros eu gwlad a’r Llewod yn y gêm yn erbyn yr Alban?
41. Roedd Courtney Lawes a Dan Biggar yn gapteiniaid timau Cymru a Lloegr yn y gêm rhwng y ddwy wlad. I ba glwb yr oedd y ddau yn chwarae ar y pryd?
42. Pwy ennillodd cap rhif 150 i Gymru yn erbyn yr Eidal?
43. Yn 2022 fe gollodd Cymru I’r Eidal am y tro cyntaf ers pryd?
44. Pwy sgoriodd y mwyaf o bwyntiau – 71 – yn y Chwe Gwlad eleni?
45. Pwy oedd yr unig Gymro i sgorio dau gais yn ystod y twrnament?

Enillwyr 2022

Pwy enillodd y canlynol?

46. Uwch Gynghrair Cymru
47. Adran Premier Pêl-droed Menywod Cymru
48. Cwpan FA Lloegr
49. Cynghrair Pencampwyr Ewrop Real Madrid
50. Cynghrair Europa
51. Tour de France
52. Pencampwriaeth Criced y siroedd
53. Grand Prix Prydain 2021
54. Chwe Gwlad y Menywod
55. Euro 2022 pêl-dreod y Menywod

Stadia

Pwy sy’n chwarae yn y llefydd canlynol?

56. Y Cae Ras
57. Ffordd Padarn
58. Y Traeth
59. Maes Tegid
60. Y Gnoll
61. Parc Bryntirion
62. Parc y Bragdy
63. Parc Eugene Cross
64. Heol Sardis
65. Y Wern

Pwy yw’r pennaeth?

Pwy yw prif reolwr neu hyfforddwr y timau canlynol?

66. Tîm rygbi Cymru
67. Clwb Pêl-droed (CPD) Dinas Abertawe
68. Tim Pêl-droed Menywod Cymru
69. CPD Y Seintiau Newydd
70. CPD Dinas Caerdydd
71. CPD Casnewydd
72. Clwb Rygbi (CR) Gleision Caerdydd
73. CPD Wrecsam
74. CPD  Southampton
75. Tîm rygbi menywod Cymru

 

Atebion Cwiz Mawr Dolig Phil Stead

Phil Stead

Faint o’r cwestiynau a gawsoch yn gywir?