Mae taith Cymru yng Nghwpan y Byd wedi dod i ben ar ôl colli o 3-0 yn erbyn Lloegr.
Lloegr sy’n gorffen ar frig y grŵp, ar ôl dwy gôl gan Marcus Rashford ac un gan Phil Foden.
Tîm Rob Page sydd wedi gorffen ar waelod y grŵp, gydag un pwynt yn unig ar ôl y gêm gyfartal gyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau.
Ar ôl i’r Unol Daleithiau guro Iran o gôl i ddim, byddan nhw’n mynd ymlaen i rownd yr 16 olaf hefyd.
Byddai’n rhaid i Gymru fod wedi curo Lloegr o bedair gôl er mwyn drwodd, o ystyried y canlyniad yng ngêm Iran a’r Unol Daleithiau.
Adroddiad
Fe wnaeth Cymru ddal eu tir yn ystod yr hanner cyntaf, gyda’r ddau dîm yn ddi-sgôr ar hanner amser.
Daeth unig gyfle gwirioneddol yr hanner cyntaf i Marcus Rashford, ond cafodd ei harbed yn llwyddiannus gan Danny Ward.
Parhaodd y pwysau gan Loegr drwy gydol yr hanner cyntaf, gydag Ethan Ampadu yn atal cic rydd gyda 18 munud ar y cloc, ac ergydion eraill gan Phil Foden a Marcus Rashford yn methu.
Neco Williams oedd y cyntaf i adael y cae yn sgil pryderon am gyfergyd i’w ben, a daeth Connor Roberts ymlaen yn ei le.
Ar ddiwedd yr ail hanner, llwyddodd Danny Ward i arbed peniad gan John Stones, a daeth cyfle cyntaf y gêm i Gymru gyda chic gan Joe Allen yn mynd dros y trawst.
Cafodd Gareth Bale ei eilyddio ar ddechrau’r ail hanner gydag anaf i linyn ei gâr, ac roedd cyflymder Brennan Johnson i weld yn fygythiad ar adegau.
Ond daeth dwy gôl i Loegr o fewn ychydig funudau tua dechrau’r ail hanner, y gyntaf gan Rashford a’r ail gan Foden ar ôl croesiad gan Harry Kane, cyn i Rashford drechu Connor Roberts a sgorio am yr eildro.
Daeth ergyd bellach i Gymru ar ôl i Ben Davies orfod gadael y cae oherwydd anaf, gyda Joe Morrell yn dod ymlaen yn ei le.
Er bod ambell gyfle wedi dod ar ddiwedd y gêm, gyda dwy ergyd mewn dau funud gan Kieffer Moore a Rubin Colwill aeth dros y trawst, ni lwyddodd Cymru i ffeindio cefn gôl Pickford.
‘Gutted’
Bu’n rhaid i Joe Allen adael y cae ar ôl 80 munud, a chyfle i Rubin Colwill, un o aelodau ieuengaf y garfan, ddod ar y cae.
“Gutted dw i’n credu yw’r gair, mae pawb nawr, doedden ni ddim eisiau mynd mas,” meddai Rubin Colwill wrth S4C ar ddiwedd y gêm.
“Dyma yw’r llwyfan mwyaf yn y byd ac mae’r timoedd eraill yn arbennig.
“Ni’n devastated, ond dyna sy’n digwydd ym mhêl-droed weithiau.”
Nid un peth aeth o’i le i Gymru yng ngemau’r grŵp, meddai Rubin Colwill, wrth gydnabod safon y bencampwriaeth.
Ei obaith yw y bydd “mwy o’r un peth” i’r garfan yn y dyfodol, ychwanegodd.
“Rydyn ni’n wlad fach, does gennym ni ddim lot o bobol, ond mae’r garfan sydd gennym ni’n arbennig.
“Mae’r bois hŷn sydd gennym ni’n arbennig, ac maen nhw’n dysgu ni.”
‘Ymlaen at fis Mawrth’
“Ymlaen at fis Mawrth” ac ymgyrch yr Ewros oedd neges Gareth Bale wrth siarad ar ddiwedd y gêm.
“Roedd hi’n gêm heriol yn erbyn tîm safonol iawn, roedden ni’n gwybod hynny o’r dechrau,” meddai’r capten.
“Rydyn ni’n siomedig gyda’r canlyniad, ond mae’n rhaid i ni gofio ein bod ni wedi dod yn bell iawn i gyrraedd Cwpan y Byd ac mae’n rhaid i ni fod yn falch o’n hunain o fod yma.
“Rydyn ni wedi rhoi 100% a rhoi popeth ar y cae. Byddan ni’n gadael yr ystafell newid gyda’n pennau ni’n uchel.
“Fydden ni wedi bod wrth ein boddau yn gwneud yn well – ond y realiti yw bod pêl-droed yn anodd ac mae angen edrych tuag at y dyfodol.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn anhygoel – y rhai deithiodd mor bell, neu wyliodd adref. Rydyn ni’n eu gwerthfawrogi nhw’n fwy nag erioed.
“Gobeithio y gwnawn nhw aros gyda ni ar gyfer dechrau ymgyrch yr Ewros ym mis Mawrth.”