Mae rheolwr Neuadd Ogwen yn dweud bod Gŵyl Cymru yn gyfle i Ddyffryn Ogwen fod “yn rhan o ddathliad cenedlaethol”.
Gŵyl gelfyddydol sydd yn digwydd wrth i’r genedl gefnogi Cymru yn ystod eu hymgyrch Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar yw Gwyl Cymru.
Mae plant Tregarth, Bodfeurig, Pen y Bryn a Llanllechid a’u hathrawon wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad ar gyfer Gŵyl Cymru yn Neuadd Ogwen heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 29), ac fel rhan o’r ŵyl maen nhw’n dangos gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd.
Estynnodd Radio Cymru wahoddiad i blant ysgolion Dyffryn Ogwen i gig y band roc-gwerin, y Moniars, heno ac i gael eu cyfweld ar y radio.
Mae tocynnau’n £3 i blant a £5 i oedolion.
Nod Gŵyl Cymru yw uno ac amlygu’r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd, a chyflwyno cynulleidfaoedd newydd i’r celfyddydau, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant, ac felly i sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022, gan y wlad leiaf i ennill ei lle yn y twrnament.
Mae cefnogi lleoliadau annibynnol ar lawr gwlad yn ganolog i’r ŵyl, a dyna pam fod lleoliadau’r ŵyl yn cynnwys sefydliadau cymunedol, clybiau pêl-droed, ysgolion, tafarndai cymunedol a neuaddau coffa.
Mae llawer o ddigwyddiadau’r ŵyl yn digwydd ochr yn ochr â dangosiadau gemau Cymru yn ystod y twrnament, ac mae sawl digwyddiad ar-lein hefyd.
Qatar a hawliau dynol
Mudiad cenedlaethol yw Gŵyl Cymru, ond sut maen nhw’n gweithio ar lawr gwlad ar gyfer twrnament yn Qatar gyda hawliau dynol mor dyngedfennol yn yr hinsawdd sydd ohoni?
“Mae Gŵyl Cymru wedi bod yn grêt oherwydd rydym yn gallu meddwl am bethau yn ddiwylliannol yn hytrach na dim ond pêl-droed,” meddai Dilwyn Llwyd wrth golwg360.
“Mae Cymru yng Nghwpan y Byd. Maen nhw yn Qatar ac wedi chwarae Iran.
“Rydym ni yn meddwl am y diwylliant, a hefyd rydym wedi bod yn gweithio efo hawliau LGBTQ+, hawliau dynol a hawliau merched.
“Mae Gŵyl Cymru wedi llwyddo i dynnu’r gwahanol feysydd yna at ei gilydd.
“Rwyf wedi trafod hyn a meddwl amdano fo dipyn.
“Mae yna rai pobol sydd wedi dewis peidio gwylio Cwpan y Byd, a hyn a’r llall.
“Rwy’n meddwl, fel gwlad, mae rhaid i ni benderfynu a ydan ni am beidio mynd i Gwpan y Byd.
“Rydym angen gwneud y pethau rydym eisiau fel gwlad.
“Rwy’n meddwl fod Gŵyl Cymru wedi tynnu rheini at ei gilydd i fi.
“Maen nhw wedi bod yn bartneriaid da i fi weithio efo.
“Rwy’n teimlo ein bod yn gwneud pethau yn y ffordd iawn.
Dyffryn Ogwen “ddim yn ardal lewyrchus yn ariannol”
Ardal dlawd ydy Dyffryn Ogwen yn economaidd, ond mae’n gyfoethog o ran cymuned a diwylliant.
“Mae unrhyw gyfle rydym yn cael i ddathlu ein hunaniaeth ac yn wlad fel cymuned yn bositif,” meddai Dilwyn Llwyd wedyn.
“Mae’n rhoi hwb cymunedol.
“Mae unrhyw beth sy’n tynnu pobol at ei gilydd yn bositif.
“Mae o’n gwneud i bobol deimlo yn rhan o rywbeth mwy, ein bod yn rhan o’r dathliad cenedlaethol.
“Mae o’n anffodus ble mae Cwpan y Byd.
“Efo pêl-droed Cymru, beth bynnag ydi’r canlyniadau, mae o’n teimlo fel un tîm.
“Mae pawb ar yr un ochr, y cefnogwyr, y tîm, pawb.
“Mae o’n gwneud i ni deimlo fel gwlad annibynnol”.