Mae Dean Saunders, cyn-chwaraewr tîm pêl-droed Cymru, yn mynnu bod rhaid i Aaron Ramsey ddechrau’r gêm dyngedfennol yn erbyn Lloegr nos fory (nos Fawrth, Tachwedd 28).

Mae’r chwaraewr canol cae, a’r capten Gareth Bale, wedi’u beirniadu gan rai yn sgil eu perfformiadau hyd yn hyn wrth i Gymru chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae tîm Rob Page yn wynebu gêm yn erbyn y Saeson fydd yn penderfynu a ydyn nhw am gymhwyso o’r grŵp ar ôl gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau a cholled yn erbyn Iran.

Fe fu rhai yn galw ar y rheolwr i gefnu ar un o’r hoelion wyth, gyda galwadau arno i ddewis Joe Morrell, Jonny Williams, Dylan Levitt neu Matthew Smith yn ei le.

Ond mae Dean Saunders wedi rhybuddio’i hen gyd-chwaraewr i anwybyddu’r holl alwadau arno i adael Aaron Ramsey allan ac i ddewis Gareth Bale ar y fainc hefyd.

Eiliadau mawr

Does dim amheuaeth fod Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi creu eiliadau mawr i Gymru dros y blynyddoedd, ac mae Dean Saunders yn mynnu bod hynny’n ddigon i’r ddau gadw eu llefydd.

“Byddwn i’n bendant yn dechrau gydag Aaron Ramsey,” meddai.

“Y pwynt yw, pe bai Lloegr yn penderfynu gadael Declan Rice allan, gallan nhw ddewis Phil Foden, neu Jack Grealish, Jordan Henderson neu Mason Mount yn ei le.

“Does gennym ni ddim chwaraewr o’r safon yna wrth gefn y gallwn ni ddweud, ‘gadewch i ni ei ddewis e yn ei le’.

“Edrychwch ar yr un gôl rydyn ni wedi’i sgorio hyd yn hyn, cafodd ei sgorio gan Gareth Bale a’i chreu gan Aaron Ramsey.

“Byddwn i’n bendant yn dewis y ddau i chwarae.”

Er i Aaron Ramsey ennill y gic o’r smotyn sgoriodd Gareth Bale yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn yr Unol Daleithiau, doedd y naill na’r llall ddim ar eu gorau yn y golled o 2-0 yn erbyn Iran.

Diffyg amser ar y cae

Ond dydy’r naill na’r llall ddim wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i’w clybiau, ac roedd eu diffyg amser ar y cae – gyda Bale ond wedi chwarae 36 munud ers mis Medi, a Ramsey ddeg gêm gynghrair eleni – yn hollol amlwg.

“Fel arfer, dydy Bale a Ramsey ddim yn ildio’r bêl a dydyn nhw ddim yn cael eu tynnu allan o’u siâp,” meddai Dean Saunders.

“Ond roedd y tîm yn ildio’r bêl ac roedd hynny’n ein tynnu ni allan o’n siâp.”

Yr adeg yma o’r twrnament, gall unrhyw beth ddigwydd, yn ôl Dean Saunders, oedd yn aelod o’r garfan gollodd allan ar Gwpan y Byd yn 1994.

Er mwyn cymhwyso, bydd angen i Gymru guro Lloegr a gobeithio am gêm gyfartal rhwng Iran a’r Unol Daleithiau.

“Dw i wedi bod yn y byd pêl-droed ers amser hir, a dw i wedi gweld bron popeth,” meddai Dean Saunders.

“Dw i wedi gweld pethau dydych chi ddim yn disgwyl iddyn nhw ddigwydd, mae pobol yn dweud dydyn nhw ddim yn gallu digwydd.

“Ond edrychwch, pan welwch chi Saudi Arabia’n curo’r Ariannin, pan welwch chi Loegr yn cael eu curo gan Hwngari’n ddiweddar, pan welwch chi dimau sydd heb un chwaraewr yn chwarae ar lefel uchel yn asio’n sydyn ac yn bwrw iddi, fel rydyn ni wedi’i weld yma eisoes, yna mae gennych chi resymau i gredu.

“Gadewch i ni fod yn onest, os ydych chi’n gosod y timau hyn ochr yn ochr, does dim llawer o’r tîm Cymru hwn yn mynd i mewn i dîm Lloegr.

“Rhaid i ambell beth ddigwydd er mwyn i Gymru ennill.

“Mae’n rhaid i Loegr chwarae o dan yr hyn maen nhw’n gallu chwarae.

“Os ydyn nhw’n chwarae’n dda, ac os ydyn ni’n chwarae’n dda, yna byddan nhw’n ennill.

“Felly rhaid i ni godi uwchlaw ni’n hunain a rhaid i ni eu gostwng nhw’n is na’u lefel arferol.

“I wneud hynny, rhaid i o leiaf saith chwaraewr Cymru berfformio’n dda iawn.

“Rhaid i benderfyniadau’r dyfarnwr fynd o’n plaid ni, ac mae angen ychydig o lwc arnom hefyd.

“Os cawn ni’r holl bethau hynny, yna gallwn ni ennill.”

Beth sydd angen i Gymru ei wneud er mwyn cymhwyso?

Mae Grŵp B yn hollol agored ar drothwy’r ddwy gêm olaf – Cymru yn erbyn Lloegr, ac Iran yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Mae’n rhaid cyfaddef mai Lloegr yw’r ffefrynnau i orffen ar y brig, gyda buddugoliaeth yn ddigon os yw Iran a’r Unol Daleithiau’n gorffen yn gyfartal a bod y Saeson yn osgoi crasfa o 4-0 gan Gymru.

A rhoi crasfa i’r Saeson sydd angen i Gymru ei wneud – o 4-0 – os nad yw’n gêm gyfartal rhwng Iran a’r Unol Daleithiau.

Rhaid i’r Unol Daleithiau ennill er mwyn cymhwyso, tra bydd gêm gyfartal yn ddigon i Iran oni bai bod Cymru’n curo Lloegr.