Mae hi’n ymddangos na fydd Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn ei swydd lawer hirach ar ôl y golled o 39-34 yn erbyn Awstralia dros y penwythnos.
Mae’r pwysau ar y gŵr o Seland Newydd yn cynyddu yn dilyn y golled ddiweddaraf ar ddiwedd cyfres yr hydref siomedig i’r tîm cenedlaethol, ac yn enwedig y golled o 13-12 yn erbyn Georgia, un o dimau ail haen y byd rygbi rhyngwladol.
Roedd Cymru ar y blaen o 34-13 yn erbyn yr Awstraliaid, cyn iddyn nhw chwalu yn yr ail hanner a chrafu colled o enau buddugoliaeth yn niwedd y gêm.
Mae’n ymddangos erbyn hyn mai dyna’r bennod olaf i Pivac wrth y llw, ar ôl iddo wneud tro pedol ar ei benderfyniad i deithio gyda phenaethiaid Undeb Rygbi Cymru i Ffrainc i gynllunio ar gyfer Cwpan y Byd.
Ar ôl y gêm ddydd Sadwrn (Tachwedd 26), roedd e’n mynnu ei fod e eisiau bod wrth y llyw ar gyfer Cwpan y Byd, a bod ei sylw’n troi at y gystadleuaeth wrth i Undeb Rygbi Cymru gynnal adolygiad o’r perfformiadau diweddaraf wrth ddechrau’r paratoadau hynny.
Roedd yr Undeb yn pwysleisio bod cynnal arolwg ar ôl pob cystadleuaeth yn beth digon cyffredin, ond mae’r ysgrifen ar y mur yn ôl nifer o’r gwybodusion, sydd wedi bod yn llafar yn eu beirniadaeth a’u hamddiffyniad o Wayne Pivac.
Fel rhan o’r adolygiad, mae disgwyl i’r Undeb gynnal cyfres o gyfweliadau gyda hyfforddwyr a chwaraewyr profiadol a’r awgrym ar hyn o bryd yw y gallai Warren Gatland, un o’r pynditiaid ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia, ddychwelyd i’r swydd yn y tymor byr wrth i’r Undeb chwilio am brif hyfforddwr parhaol flwyddyn yn unig cyn Cwpan y Byd.