Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos o ddifrod mewn clwb rygbi yn Sir Benfro.

Cafodd nifer o eitemau eu dwyn o storfa yng Nghlwb Rygbi Tyddewi a’u difrodi dros gyfnod o ddeuddydd rhwng Hydref 31 a Thachwedd 1.

Fe wnaeth y sawl oedd yn gyfrifol dorri i mewn i’r storfa, dwyn polion oren a melyn, eu difrodi a’u gadael nhw ar lawr.

Cafodd stretsiar ei ddwyn o’r storfa hefyd, a’i daflu ar ben to’r clwb rygbi.