Dylai tîm criced Swydd Gaerwrangon fod wedi ymweld â Gerddi Sophia yng Nghaerdydd i herio Morgannwg yr wythnos hon.
Ond gyda’r coronafeirws wedi dod â’r byd criced a chwaraeon ehangach i stop am y tro, mae cyfle i edrych yn ôl ar rai o ornestau’r gorffennol.
Y bwysicaf ohonyn nhw i gyd, efallai, yw honno yn 1969 pan gipiodd Morgannwg dlws y Bencampwriaeth am yr ail waith yn eu hanes.
Roedd Morgannwg yn croesawu’r tîm o ganolbarth Lloegr gan wybod fod buddugoliaeth yn ddigon iddyn nhw gipio’r gynghrair a chael eu coroni’n bencampwyr.
Y gêm
Ac fe ddechreuon nhw’n gadarn, gyda Majid Khan o Bacistan yn taro 156 allan o gyfanswm batiad cyntaf o 265, gyda Norman Gifford yn cipio saith wiced am 99 i’r ymwelwyr.
Heblaw am Ron Headley (71), wnaeth fawr neb gyfrannu gyda’r bat i’r Saeson wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 183, gyda Malcolm Nash yn cipio pedair wiced am 43 a Don Shepherd yn cipio tair wiced am 69.
Roedd gan Forgannwg flaenoriaeth batiad cyntaf o 82, felly, ac fe sgorion nhw 173 am bump cyn cau’r ail fatiad a gosod nod o 255 i Swydd Gaerwrangon.
Ond unwaith eto, roedd bowlio Morgannwg yn rhy gryf i’r ymwelwyr, wrth i Tony Cordle (5-42) a Don Shepherd (4-20) waredu’r batwyr un ar ôl y llall.
Roedd Swydd Gaerwrangon i gyd allan am 108, felly, a Morgannwg yn fuddugol o 147 o rediadau, wrth i Don Shepherd gipio’r wiced dyngedfennol.
Dathliadau
Er dathliadau tawel y chwaraewyr ar y cae, yn dra gwahanol i’r hyn welwyd yn Taunton 28 o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd sylwadau’r chwaraewyr ar ddiwedd yr ornest yn dangos mor glos oedd y tîm – rhywbeth fu’n nodweddi Morgannwg ar hyd y blynyddoedd.
“Mae pawb wedi gwneud cyfraniad rywbryd neu’i gilydd tuag at y llwyddiant yma,” meddai’r capen Tony Lewis.
“Fe fu’n ymdrech lew gan y tîm, ac mae cipio’r teitl yma yn ein pencadlys yn beth arbennig iawn.”
Cyfeiriodd Don Shepherd at ei ddathliadau tawel yntau ar ddiwedd y gêm.
“Fe wnes i roi ’mraich ar ysgwydd Tony [Cordle],” meddai.
“Roedd yn eiliad o foddhad sylweddol i’r ddau ohonon ni ac i weddill y tîm.
“Roedd y deng mlynedd hynny yn y 1960au oedd wedi cwmpasu’r buddugoliaethau dros Awstralia [yn 1964 ac 1968], yr adegau pan fuon ni bron ag ennill y Bencampwriaeth, ac yna’r Bencampwriaeth ei hun, bron cystal ag y gewch chi yn y gêm.”
Ac mae Alan Jones yn cofio’r dathliadau “Cymreig”.
“Yng nghanol dathliad Cymreig go iawn, cafodd y newyddion am ein buddugoliaeth ei darlledu ledled Prydain gan y BBC oedd yn bresennol yn y gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon.
“Daeth y llongyfarchiadau o bob cwr o’r byd, ac roedd yn ddiwrnod gwych eto i fod yn Gymro.”