Mae clybiau pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu gorffen y tymor 2019-20, yn dilyn cyfarfod cyfranddalwyr ddoe (dydd Gwener, Mai 1).
Cafodd y clybiau frîff ynghylch “Prosiect Ail-ddechrau” y gynghrair, wedi i’r gêm broffesiynol gael ei gohirio yn Lloegr ar Fawrth 13.
Pwysleisia’r gynghrair na fydd sesiynau hyfforddi a gemau yn cael eu cynnal oni bai bod Llywodraeth Prydain yn rhoi sêl bendith i’r cynllun.
“Mae’r clybiau yn ystyried y camau cyntaf wrth symud ymlaen, a fyddan nhw ddim ond yn dychwelyd i hyfforddi a chwarae gydag arweiniad y Llywodraeth, gyda chyngor meddygol arbenigol ac wedi trafodaethau gyda chwaraewyr a rheolwyr,” meddai datganiad.