Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac am weld lles chwaraewyr yn cael blaenoriaeth pan fydd rygbi’n dychwelyd.

Dyw hi ddim yn glir pryd fydd rygbi’n gallu ail-ddechrau yn sgil y pandemig coronafeirws.

Dywed Wayne Pivac y bydd angen diogelu yn erbyn y feirws pan fydd rygbi’n dychwelyd.

Mae o hefyd am sicrhau nad yw chwaraewyr yn dioddef anafiadau am eu bod nhw wedi methu ymarfer yn gyson.

“Fydd hi ddim yn fater syml o fynd yn ôl a throi lan i ymarfer a chwarae,” meddai.

“Mae’r rhain yn adegau unigryw ac mae’n anghredadwy gweld beth sydd wedi digwydd.”

Dywed Wayne Pivac y gall tîm rhyngwladol Cymru godi calon y genedl pan fydd modd ailddechrau chwarae gemau.

“Gallwn ni helpu rhoi gwên yn ôl ar wynebau pobl. Mi fydd hi’n ddiwrnod arbennig pan fydden ni’n ôl, dwi’n sicr am hynny.”