Mae’r gystadleuaeth griced ddinesig newydd, Can Pelen wedi cael ei gohirio tan 2021 yn sgil y coronafeirws.
Daw’r penderfyniad yn dilyn cyfarfod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i drafod nifer o bryderon am lansio’r gystadleuaeth eleni.
Un o wyth tîm y gystadleuaeth yw’r Tân Cymreig, tîm dinesig Caerdydd.
Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth ddechrau ganol mis Gorffennaf, ond daeth cadarnhad yn ddiweddar na fyddai unrhyw griced yn cael ei chwarae’n broffesiynol nac ar lawr gwlad tan fis Gorffennaf ar y cynharaf.
Bwriad y gystadleuaeth newydd yw denu cynulleidfa newydd i’r byd criced, ond fydd hynny ddim yn bosib am y tro yn sgil ymbellháu cymdeithasol, a’r tebygolrwydd yw y bydd cryn oedi cyn bod modd dod â thorfeydd ynghyd hyd yn oed ar ôl llacio’r cyfyngiadau.
Ac wedyn mae’r gystadleuaeth yn dibynnu ar chwaraewyr o dramor ond gyda’r cyfyngiadau teithio yn eu lle ar draws y bryd, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pryd fydd y rheiny yn dod i ben.
Mae pryderon ehangach hefyd, y gallai’r Can Pelen nawr orfod cystadlu am gynulleidfaoedd teledu â’r Gemau Olympaidd a chystadleuaeth bêl-droed yr Ewros haf nesaf.
Rhesymau
Mewn datganiad, dywed Bwrdd Criced Cymru a Lloegr fod sawl rheswm am y penderfyniad i ohirio’r gystadleuaeth tan y flwyddyn nesaf, gan gynnwys:
- heriau’n ymwneud ag ymbellháu cymdeithasol, cyfyngiadau teithio, denu chwaraewyr a hyfforddwyr o dramor
- mae cynnal gemau y tu ôl i ddrysau caëedig yn groes i ddiben y gystadleuaeth o ddenu cynulleidfa newydd
- mae staff criced ar gennad ar hyn o bryd, sy’n ei gwneud yn anodd cyflwyno cystadleuaeth newydd sbon
Maen nhw’n dweud y bydd eu gwaith nawr yn canolbwyntio ar sicrhau y gall y gystadleuaeth gael ei chynnal ar sail sawl egwyddor, sef:
- Denu cynulleidfa newydd ac ehangach i’r byd criced
- Mwy o bobol yn ymwneud â’r byd criced, gan fanteisio ar Sky a’r BBC yn cynnal gemau
- Sicrhau refeniw a chefnogaeth ariannol i’r siroedd dosbarth cyntaf, yr MCC a’r gêm ar lawr gwlad
- Datblygu doniau chwaraewyr ifainc drwy sicrhau y gallan nhw chwarae yn erbyn chwaraewyr a chael eu hyfforddi gan hyfforddwyr o safon fyd-eang
Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cynnig eglurhad pellach yn sgil y cyhoeddiad.
Datganiad
“Mae’r sefyllfa rydyn ni’n cael ein hunain ynddi fel gwlad yn golygu na fydd cyflwyno’r Can Pelen yn bosib yr haf yma,” meddai Tom Harris, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
“Tra ein bod ni’n amlwg wedi’n siomi na chawn ni wireddu’n breuddwydion eleni, bydd y Can Pelen yn mynd yn ei blaen yn 2021 pan allwn ni gyflwyno popeth roedden ni wedi bwriadu ei gyflwyno mewn modd diogel i dyfu’r gêm.
“Wrth i ni ddod drwy ganlyniadau COVID-19, fe fydd yr angen am y Can Pelen yn tyfu eto fyth.
“Bydd goroesi fel gêm yn y tymor hir yn ddibynnol ar ein gallu i adfer yn ariannol a pharhau i ddatblygu ein huchelgais o adeiladu ar y nifer cynyddol o gefnogwyr sydd gan y gêm.
“Dydy’r angen yma ddim wedi mynd ac, os rhywbeth, mae’n bwysicach fyth nawr.
“Bydd y Can Pelen yn creu miliynau o bunnoedd o refeniw i’r gêm drwy ffioedd cynnal, lletygarwch a gwerthu tocynnau, yn ogystal â chyflwyno £25m i’w ddosbarthu’n flynyddol i’r siroedd dosbarth cyntaf a’r MCC.
“Bydd ei rôl wrth gynyddu cyfranogiad a chefnogi datblygiad gêm y merched yn hanfodol wrth gynyddu faint o bobol sy’n chwarae’r gêm yn ein cymunedau ar draws y wlad.”
Strategaeth Ysbrydoli’r Cenedlaethau
Yn ôl Tom Harrison, mae’r Can Pelen hefyd yn rhan bwysig o strategaeth ehangach Ysbrydoli’r Cenedlaethau, sef un o flaenoriaethau Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
“Tra bydd effaith ariannol ar ein cynlluniau, ddylai ein huchelgais o ‘ysbrydoli cenhedlaeth’ ddim cael ei wanhau,” meddai.
“Hoffem ddiolch i’n partneriaid darlledu am eu hymroddiad eithriadol a’u cefnogaeth wrth sicrhau bod y Can Pelen yn cyrraedd y fan yma, a’n partneriaid masnachol am eu cefnogaeth barhaus.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio â nhw wrth i ni adeiladu tuag at y lansiad yn 2021.”
‘Deall y penderfyniad’
Mae Hugh Morris, prif weithredwr Morgannwg, yn dweud ei fod yn “deall ac yn cefnogi’r penderfyniad”, er ei fod yn un “siomedig”.
“Mae’n destun siom o’n persbectif ni fel clwb ac o safbwynt criced yn ehangach fod rhaid gohirio’r twrnament arloesol hwn, ond rydym yn deall pam ac yn cefnogi’r penderfyniad,” meddai.
“Bydd y manteision i Forgannwg a dyfodol criced o safbwynt y Can Pelen yn newid y gêm ac rydym yn edrych ymlaen at y lansiad yn 2021.”