Mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu clwb pêl-droed newydd yn Y Rhyl.
Yr wythnos ddiwethaf (dydd Mercher, Ebrill 22) cyhoeddodd y clwb eu bod wedi dechrau’r broses o ddirwyn y cwmni i ben yn sgil pandemig y coronafeirews, problemau gyda pherchennog cae’r tîm, yn ogystal â chostau cyffredinol.
Ychwanegodd y datganiad bod perchennog cae’r tîm, y Belle Vue, wedi gwrthod ystyried prydles hirdymor na gwerthu’r cae, a hynny am “fwy na’i werth marchnad.”
Cafodd y clwb ei sefydlu’n wreiddiol ym 1879 ac roedden nhw’n bencampwyr Uwchgynghrair Cymru yn 2004 a 2009.
Maent hefyd wedi ennill Cwpan Cymru bedair gwaith yn eu hanes.
Dechrau newydd
Bydd clwb newydd yn cael ei sefydlu dan arweiniad rheolwr-gyfarwyddwr yr hen glwb, Adam Roche, ynghyd â Tom Jamieson, a oedd aelod o’r hen fwrdd, ac a fydd yn gadeirydd dros dro.
Byddan nhw hefyd yn cydweithio â Chymdeithas Cefnogwyr Y Rhyl.
Dywed y grŵp, sydd yn gobeithio sefydlu clwb newydd erbyn tymor 2020-21, y bydd y clwb newydd “ar gyfer pobl leol i sicrhau bod traddodiad ac etifeddiaeth bêl-droed Y Rhyl yn parhau.”