Mae’r cyn-gricedwr Alan Jones wedi derbyn cap Lloegr – hanner canrif i’r diwrnod ar ôl ymddangos yn ei unig gêm ryngwladol – gan ddweud wrth golwg360 ei fod yn “golygu dipyn” iddo.
Cafodd y Cymro Cymraeg, a dreuliodd ei yrfa gyfan gyda Morgannwg, ei ddewis i’r tîm cenedlaethol ar gyfer gêm brawf gynta’r gyfres rhwng Lloegr a Gweddill y Byd yn 1970.
Cafodd y gyfres ei threfnu ar ôl i daith De Affrica gael ei chanslo yn sgil yr aparteid.
Roedd gan y gêm statws rhyngwladol llawn ar y pryd, ond cafodd y statws hwnnw ei ddileu ddwy flynedd yn ddiweddarach, sy’n golygu nad oedd e wedi ennill ei gap yn swyddogol.
Ond fe dderbyniodd e gap answyddogol i nodi’r achlysur flynyddoedd yn ddiweddarach.
Bellach, mae ganddo fe gap swyddogol â’r rhif 696 arno, i nodi mai fe yw chwaraewr rhif 696 i gynrychioli Lloegr mewn gemau prawf.
Mae modd darllen mwy am y gêm a’i chyd-destun fan hyn.
Seremoni flynyddoedd ar ôl gyrfa ddisglair
Fe dderbyniodd e’r cap mewn seremoni dros y we fore heddiw (dydd Mercher, Mehefin 17).
Ymhlith y rhai oedd yn cymryd rhan yn y seremoni roedd Colin Graves (cadeirydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr), Joe Root (capten tîm prawf Lloegr), Hugh Morris (prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg) a Tony Lewis (cyn-gapten Morgannwg a Lloegr).
Sgoriodd Alan Jones gyfanswm o 34,056 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir.
Roedd e’n aelod blaenllaw o dîm Morgannwg gipiodd dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1969, a chafodd ei enwi’n un o Gricedwyr y Flwyddyn Wisden yn 1978, ar ôl bod yn gapten ar y sir pan gyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Gillette yn Lord’s yn 1977.
Ar ôl ymddeol o chwarae – yn dilyn cyfnodau gyda Natal, Gogledd Transvaal a Gorllewin Awstralia – fe ddaeth yn hyfforddwr ar dîm Morgannwg wrth iddyn nhw ennill Cynghrair Undydd AXA Equity & Law yn 1993, ac roedd e’n Gyfarwyddwr Criced pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd am y trydydd tro yn 1997.
Cafodd ei ethol yn Llywydd y sir am dair blynedd yn 2016, ac mae’n Llywydd ar Orielwyr San Helen, clwb cefnogwyr Morgannwg yn y de orllewin.
‘Ro’n i’n meddwl bod yr amser wedi mynd’
“Doedd dim syniad gyda fi bod hwn yn mynd i ddigwydd heddi, ac ro’n i’n meddwl bod yr amser wedi mynd,” meddai wrth golwg360.
“Pan wyt ti’n meddwl, ti’n chwarae i Forgannwg drwy dy yrfa a ti’n gobeithio, un diwrnod, bo ti’n mynd i chwarae i Loegr.
“O’n rhan i, roedd chwarae i Forgannwg yn y lle cynta’ yn beth mawr iawn, fel rhywun sy’n dod o bentre’ Felindre.
“Doedd dim tîm criced yn Felindre, wrth gwrs, ac o’n i’n gorfod mynd i chwarae yng Nghlydach.
“Ti’n cael chwarae i Forgannwg a chael cap, ond mae cael dy ddewis i chwarae yn erbyn Gweddill y Byd yn rhywbeth mawr i fi.
“Roedd cael cap [answyddogol] gan Ray Illingworth, y capten, yn beth mawr ar y dydd.
“O’n ni’n meddwl na fyddai Garry Sobers yn chwarae os nag o’n ni’n cael cap iawn, ac o’n i byth yn meddwl bydden nhw’n newid eu meddwl yn hwyrach.
“Mae cael cap Lloegr yn meddwl dipyn i fi.”
‘Torcalonnus ar y pryd’
Mae’n cyfaddef iddo deimlo’n siomedig ar hyd y blynyddoedd nad oedd yn cael ei gyfri’n chwaraewr rhyngwladol â chap, ac nad oedd wedi cael cadw’r cit o’r gêm.
“Mae wedi bod yn siomedig dros y blynydde, oherwydd o’t ti wedi cael dy gap yn chwarae i Loegr, y blazer a’r sweater ond ffaelu cerdded lawr y stryd yn gwisgo fe.
“Oedd e’n beth torcalonnus ar y pryd.
“O’n i byth yn meddwl fydde heddi wedi digwydd ond wrth gwrs, dw i’n bles iawn bod e wedi digwydd.
“Dyw’r gêm ddim yn dod yn rhwydd i unrhyw chwaraewr ond mae hwn yn dod lan y top, mae’n meddwl dipyn bo fi wedi chwarae mewn gêm brawf go iawn.”
‘Gyrfa ryfeddol’
“Mae llwyddiannau Alan ar y cae criced ac oddi arno’n rywbeth i’w ddathlu, felly dw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu nodi hanner canmlwyddiant ei ymddangosiad dros Loegr yn y modd yma,” meddai Colin Graves.
“Er efallai nad yw’r llyfrau hanes yn dangos bod Alan yn gricedwr rhyngwladol â chap, roedd yr ECB eisiau cydnabod ei ymddangosiad dros Loegr a dathlu ei yrfa ryfeddol fel chwaraewr, hyfforddwr a gweinyddwr drwy roi rhif cap 696 iddo fe.
“Rwy’n llongyfarch Alan, ac yn diolch a mynegi fy mharch iddo am bopeth mae e wedi’i wneud dros griced yn ystod y chwe degawd diwethaf, yn enwedig gartref yng Nghymru.”
‘Ysbrydoliaeth’
Roedd darllen am ei lwyddiannau fel cricedwr yn “ysbrydoliaeth”, yn ôl Joe Root.
“Felly mae’n fraint o’r mwyaf cael bod yn rhan o’i ddathliad heddiw,” meddai.
“Mae cael eich dewis i gynrychioli’ch gwlad yn foment enfawr yng ngyrfa unrhyw gricedwr, a thra bod cyfnod Alan yn y tîm yn un byr, gobeithio bod ganddo fe atgofion melys o’r gêm dros y 50 mlynedd diwethaf.
“Mae’r cap yn eich gwneud chi’n aelod o deulu arbennig iawn, a gobeithio nad yw’n rhy hir cyn y gallwn ni groesawu Alan i gêm Lloegr i’w longyfarch e wyneb yn wyneb.”
‘Cymru gyfan wrth ei bodd’
“Bydd Cymru gyfan wrth ei bod fod un o’n meibion chwaraeon mwyaf wedi cael cydnabyddiaeth i’w ymddangosiad yn nhîm Lloegr gan yr ECB,” meddai Hugh Morris.
“Roedd record Alan dros Forgannwg yn rhyfeddol.
“Sgoriodd e 34,056 o rediadau dosbarth cyntaf, aeth e heibio 1,000 o rediadau mewn tymor 23 o dymhorau’n olynol, ac fe aeth e heibio’r 50 ar 250 o achlysuron.
“Fydd y cerrig milltir yma dros y clwb fyth yn cael eu trechu, ac maen nhw ymhlith record rhai o’r chwaraewyr gorau sydd wedi chwarae ein gêm wych ni.
“Ers dros 60 o flynyddoedd, mae Alan wedi bod yn chwaraewr, yn gapten, yn llywydd clwb sydd wedi bod yn agos at ei galon e, ac yn fentor ac yn arwr i’w chwaraewyr presennol a’r gorffennol.
“Mae e wedi cael effaith sylweddol ar griced ar bob lefel ledled Cymru a bydd pawb yn dathlu gydag Alan a’i deulu wrth iddo dderbyn y gydnabyddiaeth mae e mor deilwng ohoni.”