Mae’r sylwebydd a chyn-chwaraewr snwcer Willie Thorne wedi marw yn 66 oed.
Fe fu’n derbyn triniaeth am lewcemia mewn ysbyty yn Sbaen pan gafodd ei daro’n wael â salwch resbiradol.
Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan Julie O’Neill, fu’n gofalu amdano, ar dudalen Go Fund Me i godi arian ar gyfer y driniaeth.
Mae’r dudalen yn dweud iddo farw ar ôl cael ei roi mewn coma yn sgil sepsis, ac nad oedd wedi ymateb i unrhyw driniaeth.
Dywed neges ar y dudalen iddo farw yn gwrando ar leisiau ei blant yn dweud eu bod nhw’n ei garu.
Roedd y dudalen wedi codi dros 22,000 Ewro, ac fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ei angladd, yn ôl llefarydd.
Gyrfa
Cafodd Willie Thorne ei eni yng Nghaerlŷr.
Cyrhaeddodd Willie Thorne rownd wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer y Byd ddwy waith.
Enillodd e’r Mercantile Credit Classic yn 1985.
Ar ôl ymddeol yn 2001, fe ddaeth yn sylwebydd uchel ei barch gyda’r BBC.
Ymhlith y rhai cyntaf i dalu teyrnged iddo roedd y cyn-bêldroediwr John Hartson, a’r cyn-chwaraewyr rygbi Scott Quinnell a Jonathan Davies, y tri ohonyn nhw’n sylwebyddion chwaraeon erbyn hyn.