Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi penderfyniad ar bwy fydd yn cael eu dyrchafu a phwy fydd yn disgyn ym mhyramid pêl-droed Cymru.

Daw hyn yn dilyn y penderfyniad i gwtogi tymor 2019/2020.

Mae’r penderfyniad yn dibynnu ar safleoedd cynghrair ar ôl cwtogi’r tymor trwy ddefnyddio dull pwyntiau fesul gêm a/neu Drwydded Cymdeithas Bêl-droed Cymru / canlyniad Tystysgrif.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru bellach wedi cadarnhau’r canlynol ynglyn â’u Cynghreiriau Cenedlaethol.

Cynghrair Cymru Premier JD

Mae’r Fflint wedi ennill dyrchafiad i Gynghrair Cymru Premier JD am y tro cyntaf ers 22 o flynyddoedd tra bod Hwlffordd yn ennill eu trydydd dyrchafiad i’r gynghrair.

Mae Caerfyrddin yn colli eu lle yn y gynghrair am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad i’r brif adran yn 1996 gan ddisgyn i Gynghrair De Cymru JD.

A dim ond un tymor gafodd Airbus nôl yn yr adran uchaf wrth iddyn nhw ddisgyn i Gynghrair Gogledd Cymru JD.

Cynghrair Gogledd Cymru JD

Mae Llanidloes, Treffynnon a Hotspur Caergybi wedi ennill dyrchafiad i Gynghrair Gogledd Cymru JD, gyda Llanfair United, Corwen a Phorthmadog yn disgyn i Haen 3 Gogledd Cymru.

Cynghrair De Cymru JD

Mae clybiau Trefelin BGC, Rhisga a Phort Talbot wedi cael eu dyrchafu i Gynghrair De Cymru JD tra bod STM Sports Cwmaman a Chaerau Trelái yn disgyn i Haen 3 De Cymru.

Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard

Mae Cascade wedi ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard ond fydd neb yn disgyn.