Mae Freddie Woodman, golwr tîm pêl-droed Newcastle, yn dweud ei fod e eisiau aros gydag Abertawe yn dilyn cyfnod ar fenthyg.

Roedd disgwyl i’w gyfnod yn Stadiwm Liberty ddod i ben fis diwethaf, ond mae ansicrwydd yn sgil gohirio’r tymor o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae’r golwr 23 oed wedi cadw 11 llechen lân mewn 37 o gemau hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth, gan arbed tair cic o’r smotyn allan o bump.

“Dw i’n credu bod y clwb a’r cefnogwyr yn gwybod ’mod i wrth fy modd yma,” meddai wrth y BBC.

“Byddwn i wrth fy modd yn cael parhau y tymor nesaf.

“Pan ydych chi’n mwynhau eich pêl-droed ac yn mwynhau lle’r ydych chi’n byw, mae’n gwneud bywyd gymaint yn haws.

“Ond yn y byd pêl-droed, nid penderfyniad y chwaraewr yw e, ac mae’n fater i’r clybiau.”