Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud na fydd unrhyw gemau’n cael eu cynnal y tu allan i Gaerdydd eleni, os bydd hi’n bosib chwarae o gwbl ar ôl Awst 1.

Dydy’r tymor presennol ddim wedi dechrau eto yn sgil y coronafeirws.

Roedd disgwyl i Durham ymweld â San Helen yn Abertawe ar gyfer gêm Bencampwriaeth ddiwedd mis Mehefin, gyda Swydd Efrog a Swydd Nottingham yn ymweld â Chasnewydd ar gyfer gemau 50 pelawd ddiwedd mis nesaf, a Swydd Nottingham hefyd yn ymweld â Bae Colwyn ddiwedd mis Awst ar gyfer gêm Bencampwriaeth.

Ond mae’r clwb yn dweud na fydd yn bosib chwarae ar gaeau allanol yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws, gyda mesurau diogelwch gofalus yn cael eu rhoi ar waith pan fydd hi’n bosib chwarae eto.

Dyma’r tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd i San Helen fethu â chynnal gêm broffesiynol.

‘Difaru’

“Roedden ni’n edrych ymlaen at ein gemau blynyddol yn Abertawe a Bae Colwyn, a mynd â chriced undydd i Gasnewydd ar gyfer ein tymor 2020.

“Rydym yn difaru ein bod ni’n cyhoeddi heddiw nad oes modd bodloni heriau rhesymegol cynnal gemau ar gaeau allanol yn ystod yr hinsawdd ansicr sydd ohoni.

“Dydy’r amserlen ar gyfer gemau domestig 2020 ddim eto wedi’i phenderfynu, ond os oes modd i griced ddychwelyd yn ddiogel, byddwn ni’n canolbwyntio’r tymor hwn ar gynnal ein holl gemau yn ein prif leoliad yng Ngerddi Sophia.

“Rydym yn dal i ymrwymo i fynd â gemau ledled Cymru ar gyfer cymunedau ehangach gael eu mwynhau, ond pan fydd modd gwneud hynny mewn modd diogel.”