Mae’r Cymro Ben Davies yn disgwyl i gêm ei glwb Spurs yn erbyn Man U fod yn dyngedfennol i’w gobeithion o orffen y tymor yn gryf.

Bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd y tu ôl i ddrysau caëedig nos Wener (Mehefin 19) ar ôl seibiant o dri mis yn sgil y coronafeirws.

Mae Spurs yn wythfed yn y gynghrair, bedwar pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr, sy’n bumed, a saith pwynt y tu ôl i Chelsea sy’n bedwerydd yn safleoedd Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd Spurs heb fuddugoliaeth mewn chwe gêm cyn y seibiant gorfodol, ac maen nhw allan o Gynghrair y Pencampwyr eleni ar ôl colli yn erbyn RB Leipzig.

‘Gêm enfawr’

“Mae hi’n gêm enfawr yn ein tymor ni,” meddai Ben Davies wrth wefan Spurs.

“Os ydyn ni’n dechrau ar y droed flaen, gall rhoi llwyfan mawr a hyder i ni wthio am weddill y tymor.

“Ry’n ni’n gwybod fod y gêm hon yn hanfodol wrth fynd i mewn i ran ola’r tymor o ran lle’r ydyn ni eisiau gorffen.

“Mae wedi bod yn gyfnod hir o baratoi ar ei chyfer hi, ond allwn ni ddim aros i fwrw ati.”