Mae perchennog ceffylau rasio ym Mro Morgannwg yn dweud bod “lot mwy o fynd na beth fyddai pobol yn meddwl” ar rasio ceffylau yng Nghymru.
Daw sylwadau Janet Davies, sydd â nifer o geffylau yn stablau Evan Williams, wrth i rasys ddychwelyd i Gymru yfory (dydd Llun, Mehefin 15) ar ôl ymlediad y coronafeirws.
Yng Nghas-gwent fydd y rasys cyntaf, gyda rhagor yn cael eu cynnal ar gwrs Bangor-is-y-Coed fis nesaf a Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin yn yr hydref.
Mae rasys wedi’u cynnal yn Lloegr ers Mehefin 1, yn dilyn helynt Gŵyl Cheltenham sydd, yn ôl rhai, wedi bod yn gyfrifol am nifer fawr o achosion diweddar o’r feirws.
Tra bod rhai yn dweud mai camp y Ceidwadwyr yw rasio ceffylau, mae Janet Davies yn dadlau bod y sefyllfa’n wahanol yng Nghymru.
“Mae dau gae, mewn gwirionedd, o gefnogwyr rasys ceffylau,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r bobol yma sy’n hynod, hynod gyfoethog, ond gallai unrhyw un fod yn berchen ar geffyl.
“Mae ’na syndicate lawr yn Sir Benfro, er enghraifft.
“Mae ceffyl gyda nhw’n cael ei hyfforddi lawr yng Nghaerfyrddin, To Be Fair, ac maen nhw’n rywbeth fel 25 o berchnogion, i gyd wedi dod at ei gilydd mewn tafarn lawr yn Sir Benfro, ac yn berchen ar geffyl.
“Fyddech chi ddim yn gallu dweud mai ‘toffs’ Torïaidd yw rheiny. Fi’n credu bod hwnna’n ryw fath o or-ddweud tu hwnt.”
Hwb i’r economi leol
Ond yn ôl Janet Davies, mae rhai busnesau bach lleol yng Nghymru sy’n elwa o gwsmeriaid cyfoethog sy’n mynd i rasys yn Lloegr hefyd.
“Mae llefydd fel Ascot ac ati, y ‘toffs’ sy’n mynd ‘na.
“Ond synnech chi, os byddech chi’n mynd i siop ddillad merched yng Nghastellnewydd Emlyn o’r enw Ededa J, maen nhw’n gwneud eu ffortiwn yn gwerthu dillad Ascot i bobol leol yn y gorllewin.
Digwyddiadau cymdeithasol
Yn ôl Janet Davies, mae elfen gymdeithasol y rasys ceffylau yng Nghymru lawn mor bwysig â’r rasys eu hunain i lawer iawn o’r gymuned.
“Ry’ch chi’n meddwl am bobol cefn gwlad yn mynd i’r point-to-points ac ati, a beth sy’n braf pan y’ch chi’n mynd i Ffos Las yw bo’r lle’n llawn Cymry Cymraeg lleol sy’n mwynhau’r peth,” meddai.
“Fi’n credu bod e’n lot mwy na beth mae pobol yn credu yw e. Ac mae e’n rywbeth cymdeithasol ac yn fforddiadwy.
“Dywedwch bo ’na deulu o blant ac oedolion yn mynd am y dydd i’r rasio, maen nhw’n talu rhywbeth fel £20 i fynd mewn am y dydd. Dyw hwnna, o gymharu â beth mae’n costio i fynd i weld gêm o rygbi, sdim cymhariaeth.
“Fi’n credu, nawr bod Ffos Las wedi’i sefydlu ac yn bodoli a Bangor-is-y-coed yn y gogledd, mae lot o bobol yng Nghymru, sdim syniad ’da nhw bod ’na gwrs rasio yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n le pert iawn.”
Sylw i’r gamp yng Nghymru
Yn ôl Janet Davies, byddai’r gamp yn elwa o gael mwy o sylw yn y cyfryngau yng Nghymru.
“Dych chi byth yn clywed unrhyw beth, ar wahân i Shan Cothi sy’n rhoi tipyn o sylw i Cheltenham o flwyddyn i flwyddyn a’r Grand National,” meddai.
“Glywch chi ddim byd.
“Roedd ein hyfforddwr ni, Evan Williams, wedi ennill ei 1,000fed ras ryw bythefnos cyn y lockdown ag oedd ’na ddim sylw o gwbl i’r peth.
“Os byddai rhywun yn cael hanner cant o gapiau yn chwarae pêl-droed neu rygbi, byddai e yn y wasg.”