Mae’r ffaith mai Steve Cooper yw’r dyn cyntaf ers Garry Monk i bara blwyddyn yn swydd rheolwr ar dîm pêl-droed Abertawe’n adrodd cyfrolau am hanes diweddar y clwb.
Mynd ar i lawr roedd yr Elyrch am sawl tymor cyn gostwng o Uwch Gynghrair Lloegr i’r Bencampwriaeth. Mae’n bosib dadlau mai diswyddo Michael Laudrup fis Chwefror 2014 oedd dechrau’r diwedd, er y cymerodd bedwar tymor ar ôl hynny i’r gwymp anochel ddigwydd.
Hyd at ddiwedd cyfnod Michael Laudrup, roedd yr Elyrch wedi magu enw da am benodi rheolwyr oedd yn gallu annog y chwaraewyr i chwarae dull deniadol o bêl-droed. Fe roddodd Brendan Rodgers wedd gorfforol ar steil gyfandirol Paulo Sousa a Roberto Martinez, ac fe lwyddodd Laudrup yn gelfydd i asio’r ddwy wedd fel eu bod nhw’n codi tlws Cwpan Capital One yn 2013.
Ar ôl diswyddo Laudrup – heb yn wybod iddo cyn iddo wylio’r teledu, mae’n debyg – cafodd Garry Monk ei ddyrchafu. Yn gyn-gapten, roedd e’n boblogaidd ymhlith y cefnogwyr ac yn un o’r hoelion wyth oedd yn uchel ei barch ymhlith ei gyd-chwaraewyr. Mae wedi cyfaddef iddo’i chael hi’n anodd symud o fod yn gyd-chwaraewr i fod yn fòs ar y garfan ond fe gafodd e dipyn o lwyddiant yn ystod tymor pan oedd yr Elyrch yn cystadlu yng Nghynghrair Europa. O’r diwedd, gallai Ewrop weld pam fod y tîm yn cael eu cymharu â Barcelona, hen glwb Laudrup.
Ond dechrau digon siomedig gafodd yr Elyrch y tymor canlynol, a doedd hi ddim yn hir cyn iddo yntau hefyd gael ei ddiswyddo. Ar ôl mis o dan arweiniad dros dro Alan Curtis, daeth yr Eidalwr Francesco Guidolin i’r Liberty ond roedd hi’n amlwg o’r dechrau’n deg na fyddai yno’n hir. Yn Eidalwr uniaith, bron iawn, mae’n siŵr fod diffyg cyfathrebu’n ei lesteirio ac fe gafodd e gyfnod o salwch yn y swydd hefyd. Naw mis yn ddiweddarach, roedd hwnnw hefyd ar ei ffordd allan o Abertawe.
Erbyn hynny, roedd y perchnogion Americanaidd Jason Levien a Steve Kaplan yn rheoli ar lefel ucha’r clwb, ac fe ddaethon nhw â’u cydwladwr Bob Bradley gyda nhw i reoli’r tîm. Parodd hwnnw ddim ond 85 o ddiwrnodau, gyda’r cyhuddiad mai am ei fod e’n Americanwr y cafodd ei benodi i swydd oedd y tu hwnt i’w allu.
Y gwymp anochel
Ar ôl cyfnod arall o lwyddiant tymor byr o dan y gofalwr Alan Curtis, daeth Paul Clement i’r sedd fawr. Roedd hwnnw, wrth gwrs, wedi magu enw da fel cynorthwyydd Carlo Ancelotti yn rhai o glybiau mwyaf Ewrop ac yn ystod ail hanner ei dymor cyntaf, fe wnaeth e ddigon i dawelu’r ofnau am ostwng o’r Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth dros Lerpwl yn Anfield ymhlith yr uchafbwyntiau.
Ond aeth y trên oddi ar y cledrau yn nechrau ei ail dymor a’r Sais oedd y rheolwr diweddara’ i gael ei P45, wrth i’r Americanwyr ddewis Carlos Carvalhal i’w olynu. Roedd gan y gŵr o Bortiwgal enw da yn y Bencampwriaeth yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda Sheffield Wednesday. Ond roedd yna gyhuddiad wedi’i anelu at y perchnogion unwaith eto eu bod nhw’n paratoi ar gyfer bywyd yn y Bencampwriaeth.
Fe ddigwyddodd y gwymp yn ystod teyrnasiad Carvalhal, ond all neb ei feio fe’n llwyr am y gwymp. Roedden nhw ar lethr llithrig eisoes.
Y cwestiwn mawr wrth gwympo i’r Bencampwriaeth oedd ble i droi nesa’. Yn Sweden gawson nhw hyd i’r ateb, gyda’r Sais Graham Potter yn cael ei ddenu’n ôl i wledydd Prydain. Roedd gan hwnnw enw da yn y gynghrair yno, ond roedd ei ddiffyg profiad yn bryder unwaith eto.
Wel, fe brofodd e’r beirniaid yn anghywir wrth i’r Elyrch orffen yn ddegfed yn y gynghrair, gyda’r ymgais i ennill dyrchafiad ar unwaith yn aflwyddiannus. Ond roedd arwyddion fod modd gwyrdroi’r sefyllfa wrth ailadeiladu’r garfan yn dilyn ymadawiad rhai o sêr yr Uwch Gynghrair.
Ar i fyny?
Y cwestiwn wedyn oedd a fyddai’r Elyrch yn dilyn yr un patrwm wrth ddewis rheolwr di-brofiad unwaith eto, neu’n mynd am bâr saff o ddwylo oedd â record o ennill dyrchafiadau. A oedden nhw eisiau ennill dyrchafiad oedd y cwestiwn mawr pan gafodd pawb wybod mai Steve Cooper oedd y rheolwr newydd.
Wyddai neb fawr ddim am y Cymro o Bontypridd, mab y dyfarnwr Keith Cooper, heblaw am y ffaith ei fod e wedi ennill Cwpan y Byd gyda thîm dan 17 oed Lloegr. Oedd dewis rheolwr di-brofiad arall, oedd erioed wedi rheoli ar lefel clybiau, yn arwydd unwaith eto o ddiffyg uchelgais? Oedd, yn ôl rhai.
O ystyried bod Abertawe wedi gorffen yn ddegfed y tymor diwethaf gyda 65 o bwyntiau, mae ganddyn nhw obaith o hyd o fynd gam ymhellach yn y naw gêm sy’n weddill o’r tymor hwn.
Beth sy’n weddill o’r tymor?
Gyda’r tymor yn ailddechrau ddydd Sadwrn nesaf (Mehefin 20), mae’r Elyrch wedi bod yn herio Caerdydd mewn gêm gyfeillgar y tu ôl i ddrysau caëedig heddiw, mewn lleoliad sydd heb ei gadarnhau. Mae holl dimau’r Bencampwriaeth bellach yn amgyffred ag awyrgylch gwahanol heb gefnogwyr ac o fewn cyfyngiadau’r coronafeirws.
Bydd y tymor go iawn yn ailddechrau iddyn nhw gyda thaith i Middlesbrough, sydd mewn perygl o ostwng i safleoedd y gwymp.
Byddan nhw wedyn yn croesawu Luton i’r Liberty y Sadwrn canlynol (Mehefin 27) ar gyfer gêm arall y dylen nhw fod yn ennill pwyntiau ohoni.
Mae ganddyn nhw deithiau wedyn i Millwall, Birmingham, Nottingham Forest a Reading, yn ogystal â gemau cartref mwy anodd yn erbyn Sheffield Wednesday, Leeds a Bristol City.
Y patrwm y tymor hwn yw fod yr Elyrch wedi bod yn fwy llwyddiannus oddi cartref nag ar eu tomen eu hunain ac o edrych ar y rhestr gemau sy’n weddill, mae’n debygol iawn fod y patrwm hwnnw am barhau. Mae 12 pwynt yn sicr o fewn cyrraedd.
Mae triphwynt rhyngddyn nhw a’r safleoedd ail gyfle, ac fe allai perfformiadau a chanlyniadau cyson rhwng nawr a diwedd y tymor arwain at gryn dipyn mwy o lwyddiant nag y byddai neb wedi’i ddisgwyl – fyddai neb wedyn yn gofyn “Steve pwy?”