Mae Warren Gatland, cyn-hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cael ei drechu gan ei fab ei hun wrth i rygbi proffesiynol ddychwelyd i Seland Newydd am y tro cyntaf ers ymlediad y coronafeirws.
Mae torfeydd wedi cael mynd i gemau ar ôl i’r wlad lwyddo i ddileu’r feirws yn llwyr.
Yn y gêm gyntaf, roedd Bryn Gatland yn chwarae i’r Highlanders yn erbyn y Chiefs, sy’n cael eu hyfforddi gan ei dad Warren.
Y tad oedd ar y blaen yn niwedd y gêm cyn i’r mab gicio gôl adlam, dull anghyffredin o sgorio yn Seland Newydd, o 40 llathen ar ôl dod i’r cae yn eilydd.
Mae timau wedi bod yn ymarfer y gôl adlam yn sgil newid yn y rheolau sy’n golygu bod pwyntiau aur ar gael am gemau sy’n gyfartal ar ôl 80 munud.
‘Mab neu beidio, dw i ddim yn hapus’
“Dw i ddim yn hapus ein bod ni wedi colli’r gêm, ond da iawn iddo fe,” meddai Warren Gatland am ei fab Bryn.
“Does dim ots gyda fi os yw’n fab i fi neu beidio.
“Bydda i’n mynd i ffwrdd ac yn edrych ar hynny ond dw i’n dal wedi fy siomi gan y canlyniad.
“Rydyn ni’n mynd ar y blaen ac yn eu troi nhw drosodd, wnaethon ni ddim sicrhau’r meddiant a dyna’r gêm [ar ben] i ni.”
Cadw’r newyddion oddi wrth ei dad
Yn ôl Bryn Gatland, wnaeth e ddim dweud wrth ei dad ei fod e wedi cael ei gynnwys yng ngharfan yr Highlanders – er nad oedd e wedi cael ei enwi ymhlith y 23 yn wreiddiol.
Fe glywodd e ddydd Iau (Mehefin 11) ei fod e ar y fainc yn sgil anaf i Josh Ioane ond dim ond mewn neges destun y cafodd ei dad wybod y newyddion.
“Ces i swper gyda fe a mam neithiwr a hanner ffordd drwy’r swper, cafodd e [Warren Gatland] neges destun a dweud wrtha i ‘rwyt ti ar y fainc fory’, ac fe ddywedais i ‘Dw i ddim eisiau datgelu cynllun y gêm’,” meddai Bryn Gatland.
Mae cystadleuaeth Super Rugby Aoteroa yn disodli’r Super Rugby yn sgil cyfyngiadau teithio’r coronafeirws.