Mae adroddiadau y gallai Aaron Ramsey ymuno â chlwb Manchester United.

Mae lle i gredu bod Clwb Pêl-droed Juventus yn barod i werthu’r Cymro fel rhan o gytundeb gwerth £50m a fyddai’n gweld Paul Pogba yn gadael Old Trafford.

Yn ôl adroddiadau, mae Juventus yn awyddus i werthu’r Cymro fel rhan o ymdrechion i dorri costau’r clwb yn sgil y coronafeirws.

Treuliodd Aaron Ramsey 11 tymor gydag Arsenal cyn ymuno â mawrion yr Eidal y llynedd, ac mae lle i gredu ei fod e’n ennill oddeutu £400,000 yr wythnos.

Mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn 2023, a’r gred yw y bydd yn rhaid iddo fe dderbyn tipyn llai o gyflog os yw e am adael yr Eidal.