Mae Leon Britton wedi gadael ei rôl yn Gyfarwyddwr Chwaraeon Clwb Pêl-droed Abertawe.
Mae’n dweud ei bod hi’n bryd iddo dreulio mwy o amser gyda’i deulu ar ôl 16 o flynyddoedd gyda’r clwb.
Cafodd ei benodi i’r swydd gan y cadeirydd newydd Trevor Birch ar ôl ymddeol o chwarae yn 2018, ar ôl chwarae mewn 536 o gemau.
Ynghyd ag Alan Curtis, un arall o fawrion y clwb, roedd e’n allweddol yn ei rôl fel ymgynghorydd i’r bwrdd cyfarwyddwyr yn y penderfyniad i benodi Steve Cooper yn rheolwr ac Andy Scott yn bennaeth recriwtio.
Cafodd ei ddyrchafu’n gyfarwyddwr fis Medi’r llynedd fel rhan o adolygiad yn dilyn y gwymp o Uwch Gynghrair Lloegr fis Mai 2018.
Gyrfa
Ymunodd Leon Britton ag Abertawe ar fenthyg o West Ham yn 2002.
Fe wnaeth e chwarae ym mhob adran o’r Gynghrair Bêl-droed, gan helpu’r clwb i aros yn y gynghrair yn 2003 pan ddaethon nhw o fewn trwch blewyn i gwympo i’r Gyngres.
Daeth e’n aelod o dîm hyfforddi Paul Clement cyn ymddeol, ac fe gafodd e gyfnod dros dro wrth y llyw a thymor fel llysgennad.
“Rydym oll yn flin o weld Leon yn ildio’i rôl,” meddai’r cadeirydd Trevor Birch.
“Mae e wedi gwneud cyfraniad enfawr wrth helpu i ail-strwythuro a gyrru’r gweithrediadau pêl-droed yn ei flaen.
“Tra ei fod e bob amser wedi bod eisiau cymryd seibiant o’r gêm, wnaeth e ddim oedi wrth gytuno i fy nghais i helpu pan oedd angen ei wybodaeth, ei allu a’i angerdd ar y clwb.
“Ro’n i’n gobeithio y byddai’n newid ei feddwl yn ystod y cyfnod gwarchae, ond mae e’n canolbwyntio ar gymryd seibiant o’r gêm a rhaid i ni barchu hynny.
“Mae e wir wedi creu argraff arna i dros y 18 mis diwethaf ac mae’n cael ei barchu gan bawb yn y clwb.
“Mae e’n eicon yn y clwb sy’n nodweddu’r hyn yw Abertawe a dw i’n sicr nad yw ei berthynas â’r clwb ar ben.
“Bydd y drws bob amser ar agor iddo fe.”
‘Siom’
“Dw i’n amlwg wedi siomi o adael,” meddai Leon Britton.
“Ond dyma’r amser cywir i fi gael brêc, treulio mwy o amser gwerthfawr gyda ‘nheulu a mwynhau rhyddid a hyblygrwydd bywyd cyffredin.
“Ers i fi ymuno â Chelsea yn wyth oed, symud i Arsenal yn naw oed a dod yn brentis llawn amser gyda West Ham yn 16 oed, mae pêl-droed wedi cymryd drosodd fy mywyd.
“Ro’n i bob amser am gymryd amser allan ar ôl rhoi’r gorau i chwarae, ond fe wnaeth Trevor (Birch) ofyn i fi ei helpu wrth ail-strwythuro ochr bêl-droed y clwb pan gyrhaeddodd e; tasg oedd wedi cynyddu yn dilyn ymadawiad Graham Potter i Brighton.
“Fe ddywedais i y byddwn i’n helpu oherwydd dw i’n caru’r clwb, ac fe fydda i’n dal i garu’r clwb, ond fy mwriad erioed oedd camu’n ôl unwaith fyddai pethau’n setlo, a dyna sydd wedi digwydd gyda Steve (Cooper) ac Andy (Scott) yn cyrraedd.
“Dw i wedi mwynhau’r rôl ac mae wedi rhoi mewnwelediad i fi i sut mae clwb pêl-droed yn gweithredu y tu ôl i ddrysau caëedig.
“Fe fu’n brofiad gwych a dw i wedi dysgu tipyn gan Trevor ac Andy; maen nhw wedi bod yn help enfawr, ynghyd â Steve (Cooper) a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y cyfle.
“Ond swydd brysur 24/7 yw hi, a nawr yw’r amser mae’n rhaid i fi gadw addewid i fi fy hun a ‘nheulu i gymryd seibiant o’r gêm ar ôl bron i 30 o flynyddoedd.
“Bydda i’n cadw cysylltiad â’r clwb ac yn helpu lle bynnag y galla i oherwydd mae’r Elyrch a’r cefnogwyr yn golygu popeth i fi.
“Dw i wir yn gobeithio nad dyma ddiwedd y berthynas agos sydd gyda fi â’r clwb ac y galla i ddychwelyd rywsut rywbryd yn y dyfodol.”