Mae pobol ifanc yng Nghymru yn cael eu hannog i sefyll ar gyfer Senedd Ieuenctid nesaf Cymru.

Mae wythnos ar ôl i ymgeiswyr posibl i wneud cais.

Yn ôl Lloyd Warburton, cyn-Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, mae’n gyfle gwych i “gyfarfod pobol o gefndiroedd gwahanol ar draws Cymru”.

“Rydw i o Geredigion, felly mae lot o bobol dwi’n siarad efo nhw yn arferol yn gweld yr un fath o broblemau,” meddai Lloyd Warburton i golwg360.

“Felly, roedd cwrdd â phobol o lefydd fel y cymoedd a’r gogledd-ddwyrain yn ddiddorol iawn i fi gael gweld sut mae eu blaenoriaethau nhw yn wahanol i rai fi.

“Ond dysgais i fod lot mwy yn gyffredin rhwng pawb nag sy’n wahanol.

“Wrth gwrs, mae pawb efo’u hongl eu hunain ar bethau, ond mae mwy sydd yn uno ni nag yn ein gwahaniaethu ni.”

Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn aelodau o’r sefydliad am ddwy flynedd, ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau ar bynciau llosg ac i godi sylw tuag at broblemau sydd yn bwysig i bobol ifanc.

Dywed Lloyd Warburton fod Aelodau Seneddol yn talu sylw i’r hyn sydd gan y bobol ifanc i’w ddweud.

“Roeddwn i’n sylwi yn y sesiynau wyneb yn wyneb gyda’r gwleidyddion fod yna bach o feddwl yn mynd i’w hatebion nhw – ac efallai bach yn fwy nag mewn cyfweliad efo’r wasg.

“Felly, mi oedd hi’n dda i allu cysylltu ar lefel fwy personol efo pobol sydd fel arfer yn enwau neu yn ffigyrau rydych chi jest yn eu gweld ar y teledu.”

Ychwanega ei fod yn teimlo bod y Senedd Ieuenctid yn “dylanwadu i raddau” ar yr hyn sy’n flaenoriaethau o fewn y Senedd ei hun.

“Mae pobol ifanc yn meddwl mewn ffordd fach wahanol ac yn dod allan efo syniadau sydd efallai ddim wedi cael eu hystyried o’r blaen,” meddai.

Erbyn hyn, mae Lloyd Warburton yn astudio Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae ganddo fe flaenoriaethau gwahanol.

Ond dywed “efallai yn y dyfodol” y bydd yn adeiladu ar ei brofiad yn y Senedd Ieuenctid ac yn mynd i mewn i wleidyddiaeth.

‘Cyfle unigryw’

Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, yn dweud y gallai bod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid fod yn gyfle unwaith mewn oes.

“Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle ystyrlon i bobol ifanc 11-17 oed i fod yn rhan o ddemocratiaeth yng Nghymru,” meddai.

“Rydym yn edrych am 60 o bobol ifanc i fod y rhai nesaf i ddod â’u hegni a’u syniadau i’r arena bwysig hon.

“Bydd gennych chi gyfle unigryw i gynrychioli barn eich cyfoedion i’r gwleidyddion sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig.”

Mae angen ymgeiswyr yn arbennig yn etholaeth Aberafan, lle mae llai o enwebiadau nag mewn mannau eraill.

Ar ôl iddyn nhw gael eu hethol, bydd aelodau newydd yn cael yr holl hyfforddiant a sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae’r enwebiadau’n cau am 11:59 nos Lun, Medi 30, gyda’’r pleidleisio yn digwydd ar-lein o Dachwedd 4.

Mae’r Senedd Ieuenctid wedi bod yn llwyddiant mawr i Gymru, gyda nifer o gyn-aelodau yn mynd yn eu blaenau i swyddi o fewn gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth.

Bydd sesiwn am ddim i ateb cwestiynau a helpu ymgeiswyr posib yn cael ei chynnal ar-lein am 6:00 nos Fawrth, Medi 24 – defnyddiwch yr un ddolen i gadw lle.

Mae’r ffurflen gais a’r holl wybodaeth berthnasol ar gael ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru.