Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar gynigion ar gyfer parc cenedlaethol newydd yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg am ddeng wythnos, rhwng Hydref 7 a Rhagfyr 16.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu’r dystiolaeth a’r achos dros gael Parc Cenedlaethol newydd ac i wneud argymhelliadau.

Y bwriad yw sefydlu pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, sydd bellach yn cael ei alw yn ‘Dirwedd Genedlaethol’.

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw’r ardal dan sylw’n dilyn cyfnod o ymgysylltu â’r cyhoedd ar ddiwedd 2023.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori â’r cyhoedd ar gynigion sydd wedi dod i law dros yr wythnosau nesaf.

‘Cyfle i ddysgu mwy’

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn “gyfle i ddysgu mwy am y prosiectau a’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, i ofyn cwestiynau i’r tîm a rhannu adborth ar y drafft o fap y ffiniau.

Dywed Ash Pearce, Rheolwr Rhaglen yn nhîm Rhaglen Tirweddau Dynodedig Cyfoeth Naturiol Cymru, bod ymgysylltu cynnar wedi “rhoi darlun llawer cliriach i ni o broblemau, gobeithion a phryderon” pobol leol.

“Rydym wedi nodi 11 o themâu sy’n tanlinellu risgiau a chyfleoedd i’r ardal. Mae’r rhain yn adlewyrchu pryderon am dwristiaeth a’r effaith ar dai, ond hefyd y gobeithion am well rheolaeth, mynediad cyfrifol, cadwraeth ac adferiad byd natur.

“Os caiff Parc Cenedlaethol newydd ei sefydlu, yna mae’n rhaid iddo allu rheoli’r risgiau a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, er mwyn gwella byd natur, pobl a chymunedau.

“Rydym wedi diwygio ardal yr astudiaeth mewn ymateb i adborth lleol ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi penodi tri ymgynghorydd annibynnol ar wahân i’n helpu i ddatblygu’r dystiolaeth a fydd yn llywio ein hargymhelliad.”

Yn rhan o’r ymgynghori cyhoeddus, bydd digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn digwydd mewn deg lleoliad gwahanol, gan gynnwys Neuadd Goffa Wrecsam, Canolfan Gymunedol Neuadd y Brenin a Neuadd y Dref Llangollen.

Bydd tri digwyddiad cyhoeddus ar-lein yn ystod y deng wythnos, yn ogystal â saith digwyddiad i grwpiau wedi’u targedu.