Mae angen annog mwy o bobol i ddilyn cyrsiau goryrru drwy’r Gymraeg, meddai Pencampwr Iaith Gymraeg mudiad addysgu troseddwyr ffyrdd UKROEd.
Yn ôl Iestyn Davies, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn gyndyn o wneud y cwrs drwy’r Gymraeg gan eu bod nhw’n poeni am ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun academaidd.
Mae gwaith ar y gweill i herio’r gamargraff honno ac mae TTC, sy’n rhedeg y cyrsiau, wedi derbyn Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg heddiw (dydd Mercher, Mehefin 1) am eu hymdrechion.
Mae swyddfa’r Comisiynydd yn cynnal diwrnod arbennig heddiw i ddathlu llwyddiant busnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg.
UKROEd – sy’n gweithredu, rheoli, gweinyddu a datblygu’r Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru – sy’n caniatáu i bobol fynd ar gwrs yn lle derbyn pwyntiau ar eu trwydded neu ddirwyon.
“Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn dros y deuddeg mis diwethaf efo UKROEd yn rhedeg cyrsiau ailhyfforddi gyrru, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Iestyn Davies, Pencampwr Cymraeg UKROEd, wrth golwg360.
“Rydyn ni’n awyddus iawn i bobol wneud cyrsiau, mae yna wahanol gyrsiau ar gael. Dydy poblogaidd ddim y gair iawn… ond mae yna lot o bobol yn mynd ar gyrsiau ar ôl cael eu dal yn goryrru.
“Be’ rydyn ni wedi’i sylwi yma yng Nghymru, mewn ardaloedd lle mae yna lot fawr o bobol yn siarad Cymraeg, dim ond canran isel iawn o’r rheiny sy’n mynd ar gwrs Cymraeg.
“Pan rydyn ni’n edrych ar yr ystadegau hynny, dydy o ddim yn adlewyrchiad o’r gymuned honno o ran faint o bobol oedd yn dewis dilyn cyrsiau Cymraeg.
“Be’ fysan ni’n licio gwneud ydy annog mwy o bobol sy’n siarad Cymraeg i fynd ar y cyrsiau. Dw i wedi clywed bod pobol yn nerfus am fynd ar y cyrsiau, ac maen siŵr bod hyn yn wir am gyrsiau eraill hefyd, i fynd ar gyrsiau Cymraeg gan eu bod nhw’n teimlo bod eu cynnwys nhw, efallai, rhy academaidd iddyn nhw ei ddeall.
“All hynny ddim bod ymhellach oddi wrth y gwir, mae’r cyrsiau’n cael eu dysgu gan bobol sy’n byw yn y cymunedau hynny a fyddan nhw’n pitsho ar gyfer pwy bynnag sydd yna.
“Mae bob cwrs ar gael yn Gymraeg, a be’ rydyn ni’n trio ei wneud yn ddiweddar ydy hybu mwy o Gymry i fynd ar y cyrsiau yma sy’n cael eu gwneud drwy’r iaith Gymraeg.
“Mae’r rheiny ar-lein neu yn y dosbarth, ac rydyn ni wedi creu fideo byr sydd ar gael ar y wefan yn esbonio fod y Gymraeg sy’n cael ei defnyddio ar gyrsiau yn hawdd iawn i’w deall.
“Mae rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg yn gallu deall y cyrsiau.”
‘Tu hwnt i’r gofynion’
Er bod rhaid rhoi’r un statws i’r Gymraeg â’r Saesneg, mae UKROEd yn awyddus i bwysleisio eu bod nhw eisiau mynd tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol.
“I ddechrau, mae hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cynnig bob cwrs yn y Gymraeg. Mae o’n ddeddf yma yng Nghymru ein bod ni’n gorfod trin y Gymraeg mor bwysig â’r Saesneg,” meddai Iestyn Davies.
“Rydyn ni wedi buddsoddi i gael hyfforddwyr Cymraeg yng Nghymru, mae yna ddigon o hyfforddwyr yma yng Nghymru ond be’ fyswn i’n licio gwneud ydy i bobol fynd ar gyrsiau Cymraeg.
“Dros y misoedd diwethaf yma, rydyn ni wedi gweld mwy o bobol sy’n siarad Cymraeg yn mynd ar gyrsiau Cymraeg felly mae’r newyddion yna’n wych.”