Mae model sy’n darlunio Brenhines Lloegr ‘ar yr orsedd’ wedi cael ei dynnu oddi ar ochr y lôn yn Llanon, gyda Chyngor Sir Ceredigion yn ei ddisgrifio fel un “amhriodol”.
Roedd y model yn portreadu’r Frenhines yn eistedd ar doiled gyda baner fawr yn dweud ’70 mlynedd ar yr orsedd’ ochr yn ochr â chorgi a milwr yn dal ffoil arian fel papur toiled.
Cafodd y model ei greu gan grŵp o drigolion y pentref, a oedd wedi bwriadu ei gyflwyno mewn cystadleuaeth bwgan brain yn Llanrhystud y penwythnos hwn.
Y syniad y tu ôl i’r digwyddiad yw dod â’r gymuned at ei gilydd i fwynhau diwrnod o gerddoriaeth ac adloniant.
Mae’n cael ei gynnal ar y cae pêl-droed ger y maes chwarae yn Llanrhystud.
Fodd bynnag, dydy swyddogion y Cyngor ddim wedi gweld yr ochr ddoniol.
Mewn datganiad, dywed Cyngor Sir Ceredigion fod “model amhriodol wedi cael ei roi ar dir y Cyngor yn Llanon heb ganiatâd cyn Gŵyl Banc y Jiwbilî Platinwm.
“Bydd yr arddangosfa’n cael ei thynnu i lawr.”