Yr wythnos hon, Elizabeth II fydd y frenhines Brydeinig gyntaf i ddathlu jiwbilî platinwm ar ôl 70 mlynedd ar yr orsedd.
Wrth i bobol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt baratoi i ddathlu gyda chyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol, mae hanesydd o Brifysgol Bangor wedi bod yn edrych yn ôl ar Gymru adeg coroni Brenhines Lloegr yn 1953.
Tra bod llawer o bobol, o Gaerdydd i Gaernarfon, wedi mwynhau’r coroni gyda phartïon stryd, dod ynghyd i wylio’r teledu a phrynu mygiau i gofio’r achlysur, aeth ymatebion i’r digwyddiad y tu hwnt i’r delweddau poblogaidd hynny.
Mewn papur a gafodd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Cultural and Social History, mae Dr Mari Wiliam, darlithydd hanes modern, yn trafod y coroni yng Nghymru a sut y daeth â gwahanol agweddau ar hunaniaeth Gymreig i’r amlwg, yn genedlaethol ac yn lleol.
Er enghraifft, ar lefel genedlaethol, croesawodd Y Cymro, papur newydd Cymraeg, y coroni ar ei glawr fel digwyddiad Cymreig drwy gynnwys dwy ddelwedd fawr ochr yn ochr: un o’r frenhines ac un arall o ddau ddawnsiwr gwerin yn Eisteddfod yr Urdd.
Ysgrifennodd yr eicon o genedlaetholwr Saunders Lewis “Nid yw coroni brenhines yn bechod”, a chroesawodd weld y Ddraig Goch a Jac yr Undeb yn chwifio gyda’i gilydd ar draws de Cymru.
Ond i Fudiad Gweriniaethol Cymru, roedd y coroni’n “codi cyfog” ac o ddiddordeb i “grafwyr o Gymry” yn unig.
Polisi Plaid Cymru oedd “cadw’n dawel” (“tewi â sôn”) am y coroni gan y gallai beri rhwyg rhwng aelodau’r blaid.
‘Cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig’
Yn ôl Dr Mari Wiliam, mae Coroni 1953 “yn datgelu cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig”.
“Yn fy ymchwil, cafodd fy chwilfrydedd ei ennyn gan ymatebion lleol i’r coroni, a chanolbwyntiais ar sut y gwnaeth pobol mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru nodi’r achlysur,” meddai.
“Roedd y canfyddiadau’n peri syndod weithiau.
“Yn nhref glan y môr y Rhyl, lle roeddwn yn disgwyl y byddai llawer o frwdfrydedd am y coroni er mwyn apelio at dwristiaid, roedd cwynion bod pobol yn ddifater, ac roedd y wasg yn feirniadol nad oedd y dref wedi gwneud sbloets digon mawr i ddathlu’r coroni.
“Yn y cyfamser, yn Llansannan ger Mynydd Hiraethog, pentref gwledig Cymraeg ei iaith, nodwyd y coroni gyda digwyddiadau Cymreig traddodiadol megis noson lawen, cerddoriaeth werin Gymreig a chanu’r delyn, ond hefyd dawnsio Morris, gorymdaith brenhines leol y coroni a chanu God Save the Queen.
“Mae hyn yn dangos i ni y gall edrych ar ddigwyddiadau mawr fel y coroni a’r jiwbilî platinwm, yn enwedig o ran dathliadau cymunedol, ddweud llawer wrthym am y gymdeithas Gymraeg ac am hanes.
“Yn 1953, roedd cymysgedd o frwdfrydedd, difaterwch a thipyn o elyniaeth yng Nghymru, ac mae’n ddiddorol gweld y tebygrwydd a’r gwahaniaethau yn y dadleuon presennol ynglŷn â’r jiwbilî yn 2022.”