Ar ôl i bobol leol gael eu hatal rhag prynu tai newydd ar Ynys Môn, mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal piced i fynnu Deddf Eiddo fel nad oes rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.

Mae ystâd o 16 o dai ym Mrynteg ger Benllech yn cael eu hadeiladu, ond mae amod cynllunio arnyn nhw sy’n golygu bod rhaid eu gwerthu nhw fel cartrefi gwyliau, ac nid fel prif gartref.

Mae 6.11% o dai yr ynys eisoes yn ail dai, ac mae 62.2% o bobol yr ynys wedi eu prisio allan o’r farchnad dai.

‘Pam fod y cais wedi ei gymeradwyo?’

Mae un o’r trigolion lleol yn cwestiynu datganiad y Cyngor nad oes unrhyw beth y gallan nhw ei wneud, er iddyn nhw eu hunain gymeradwyo’r cais dan sylw yn 2008.

“Pam fod y cais wedi ei gymeradwy o gwbl?” meddai.

“Dydy’r broblem tai ddim yn rhywbeth newydd.

“Mae wedi gwaethygu a dod i amlygrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae pobol wedi methu prynu tai yn eu hardal leol ers degawdau.”

Galw am strategaeth effeithiol

Ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Iau, Mehefin 3), bydd pobol ifanc a fydd yn chwilio am gartref i’w rentu neu ei brynu yn ystod y blynyddoedd nesaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu strategaeth effeithiol i sicrhau bod modd iddyn nhw gael cartref yn eu cymunedau lleol.

“Mae Benllech yn enghraifft arall o’r angen am Deddf Eiddo fydd yn sicrhau’r hawl i gartref yn lleol, yn cynllunio ar gyfer anghenion lleol ac sicrhau bod tai yn fforddiadwy i’w prynu a’u cynnal,” meddai Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith.

“Hyd yn oed os ydy hi’n rhy hwyr i wneud rhywbeth am y tai yma yn Benllech, dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud yn siŵr fod pobol ifanc sydd yn meddwl ble i fyw neu chwilio am gartref yn gallu aros yn eu cymuned leol.

“Ond mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys a rhoi Deddf Eiddo mewn lle.”

Mae cymdeithas yr iaith yn galw am Ddeddf Eiddo sydd yn:

  • sicrhau yr hawl i gartre’n lleol
  • cynllunio ar gyfer anghenion lleol
  • grymuso cymunedau
  • blaenoriaethu pobol leol
  • rheoli sector rhentu
  • darparu cartrefi cynaliadwy
  • buddsoddi mewn cymunedau