Mae cynllun i fwydo pryfed i blant ysgol mewn ymdrech i annog cenhedlaeth newydd i symud oddi wrth gig wedi cael ei ddisgrifio fel un “chwerthinllyd”.
Daw hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr sy’n awgrymu y dylid troi at fwyta “protein amgen”.
Bydd plant pump i 11 oed mewn pedair ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnyrch o’r enw VeXo, sy’n gyfuniad o bryfed a phrotein sy’n seiliedig ar blanhigion.
Amcangyfrifodd yr ymchwil fod naw miliwn o bobol Ewropeaidd wedi bwyta pryfed yn 2019, ac mae’n rhagweld y bydd y ffigwr yn cynyddu i 390m erbyn 2030.
“Rydyn ni eisiau i’r plant feddwl am brotein amgen fel pethau y dylem fod yn eu bwyta nawr, yn hytrach na dim ond fel bwydydd ar gyfer y dyfodol, felly mae rhoi cynnig ar rai o’r bwydydd hyn yn ganolog i’r ymchwil,” meddai Christopher Bear, o Brifysgol Caerdydd.
“Er nad yw pryfed bwytadwy – am y tro – yn cael eu gwerthu’n eang yn y Deyrnas Unedig, maent yn rhan o ddiet tua 2bn o bobol ledled y byd.
“Mae hyn yn bennaf wir am rannau o’r byd lle maent yn rhan o draddodiadau coginio hir sefydlog ac maent yn fwyfwy poblogaidd mewn mannau eraill.”
‘Chwerthinllyd’
Fodd bynnag, mae’r cynllun wedi cael ei ddisgrifio fel “chwerthinllyd” gan Laura Anne Jones, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.
Mewn llythyr at Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Addysg, dywedodd ei bod hi’n “gwbl chwerthinllyd fod plant ifanc yn cael eu defnyddio i brofi dymuniadau hurt gwyddonwyr sy’n ffafrio pryfed dros gig eidion”.
“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur ateb cwestiynau am sut y caniatawyd i hyn ddigwydd, a wnaethant gymeradwyo hyn, a yw rhieni wedi cael gwybod, a all plant wrthod, a pham fod natur gynaliadwy ffermio yng Nghymru yn cael ei danseilio fel hyn.
“Rydym yn gwybod am heriau’r newid yn yr hinsawdd a chynigion i arallgyfeirio dietau, ond nid yw hynny’n golygu y gall llond llaw o bobol osod eu ffordd o fyw ar bobol sy’n ffafrio diet traddodiadol, yn enwedig plant, heb ganiatâd priodol a dilys.
“Rwy’n edrych ymlaen at ateb y Gweinidog lle bydd, gobeithio, yn rhoi terfyn ar y nonsens hwn.”