Bydd menywod ifanc o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 7), ar ôl cael y cyfle i gysgodi Aelodau’r Senedd ac i edrych ar waith mewnol bywyd gwleidyddol Cymru.
Mae Chwarae Teg, elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru, yn cynnal prosiect LeadHerShip i fenywod 16-22 oed er mwyn ysbrydoli cenhedlaeth o fenywod ym maes arweinyddiaeth yn y dyfodol.
Fel rhan o’r digwyddiad eleni, bydd 25 o ferched ifanc o bob cwr o Gymru yn ymweld â’r Senedd, lle maen nhw’n cael profiad o fywyd Aelod o’r Senedd ac yn dysgu sut mae’r Senedd yn gweithio.
Bydd y menywod ifanc yn cael y cyfle i weld Cwestiynau’r Prif Weinidog a chymryd rhan mewn dadl am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae Chwarae Teg wedi rhedeg LeadHerShip Senedd ers sawl blwyddyn, i annog mwy o fenywod i weld gwleidyddiaeth fel llwybr posib ar gyfer y dyfodol iddyn nhw.
Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli wrth wneud penderfyniadau a gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae 43% o’r Senedd yn fenywod, a dim ond 35% o Aelodau o Senedd Cymru sy’n fenywod.
Ar lefel llywodraeth leol, mae 36% o gynghorwyr lleol bellach yn fenywod yn dilyn etholiadau lleol yn 2022.
Caiff LeadHerShip Senedd 2023 ei chefnogi gan gorff Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi partneru â Chwarae Teg ar gyfer y digwyddiad drwy ddarparu teithiau trên i gyfranogwyr, a Natasha Asghar, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, sy’n noddi’r digwyddiad.
‘Cynyddu cynrychiolaeth’
“Mae LeadHerShip Senedd yn ymwneud â mynd i’r afael â rhwystrau ac i fenywod ifanc cael profiad o’r byd gwleidyddiaeth,” meddai Tomos Evans, Partner Polisi a Materion Cyhoeddus Chwarae Teg.
“Mae gwella cysylltiad menywod ifanc â gwleidyddiaeth yn allweddol er mwyn cynyddu cynrychiolaeth yn y dyfodol.
“Er gwaethaf y gwelliannau ar lefel leol yn ddiweddar a’r gynrychiolaeth dda ar y cyfan o fenywod yn y Senedd, digwyddodd hyn drwy hap a damwain yn hytrach na’i ddylunio.
“Rydym yn parhau i gael tangynrychiolaeth glir o fenywod amrywiol a diffyg weithredu gan bleidiau gwleidyddol, rydym wedi gweld cyfran y menywod sy’n cael eu hethol yn gostwng yn y gorffennol.
“Ni allwn fforddio llaesu dwylo a rhaid i ni sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn teimlo fel y gallan nhw fynd am rolau arwain ar draws bywyd cyhoeddus.”
Blas ar y Senedd
“Rwy’n hollol falch o fod yn noddi Senedd LeadHerShip y flwyddyn yma – i roi cipolwg i fenywod ifanc ar sut beth yw bod yn Aelod o Senedd Cymru,” meddai Natasha Asghar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.
“Mae annog mwy o bobol i fynd i mewn i wleidyddiaeth, yn enwedig menywod a rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, wastad wedi bod yn brosiect sy’n agos at fy nghalon i, ac mae cynllun Chwarae Teg yn ffordd wych o wneud hynny.
“Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y fenter wych hon yn cael cyfle unigryw i gysgodi gwleidyddion yn Senedd Cymru, gan gynnwys fi fy hun, a dysgu mwy am beth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud a’r ffordd mae’r Senedd yn gweithredu.”
Cofleidio Cyfiawnder
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb rhywedd, a’r thema eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, #CofleidioCyfiawnder,” meddai Rachael Holbrook, Arweinydd Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru.
“Mae’r ymgyrch yma yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rheswm ein bod yn falch o fod yn cefnogi’r rhaglen LeadHerShip Senedd am y drydedd flwyddyn yn olynol.
“Rydym yn canolbwyntio ar ddull gweithredu sydd wedi’i or-gyfeirio drwy ddarparu tegwch i fenywod ifanc sy’n teithio i’r Senedd.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cynnig cymorth, yn enwedig ar hyn o bryd o ystyried costau byw.
“Rydym am ddileu unrhyw rwystrau a allai atal cymryd rhan yn y rhaglen.
“Drwy gefnogi’r gweithgareddau ar gyfer menywod ifanc heddiw, rydyn ni’n gobeithio ein bod ni’n creu mwy o gydbwysedd ar sail rhywedd yng ngwleidyddiaeth Cymru a’r diwydiant trafnidiaeth yfory.”