Mae gwleidydd yn Seland Newydd wedi herio brodorion Awstralia i greu llais cryfach iddyn nhw eu hunain nag sydd gan y Māori yn Seland Newydd, yn ôl adroddiadau’r wasg.
Mae Kelvin Davis, Gweinidog Perthnasau’r Goron Te Atawhai, wedi dweud wrth gymunedau’r Aborijini a thrigolion Ynys Torres Strait y gallan nhw greu cytundeb llawer gwell na’r hyn sydd wedi’i greu er mwyn cryfhau llais y Māori.
Bydd trigolion Awstralia’n pleidleisio mewn refferendwm ym mis Hydref i benderfynu a ddylid newid Cyfansoddiad y wlad i greu llais brodorol yn y senedd.
Byddai creu’r grŵp hwn o gynrychiolwyr yn arwain at drafodaeth bellach ar gytundeb a phroses o adrodd hanesion cymunedau brodorol Awstralia, er enghraifft Tribiwnlys Waitangi arweiniodd at sefydlu Seland Newydd yn wlad.
Dywed Kelvin Davis iddo fynychu’r Gynhadledd Pobol Gyntaf yn Brisbane, gan adrodd hanes Pōmare, un o’i gyn-deidiau Ngati Manu.
“Pe bai’n gwybod y byddai, o fewn pum mlynedd, yn cael ei gymryd yn garcharor heb brawf, y byddai ei dad yn cael ei ysbeilio gan y Prydeinwyr a’i bobol yn cael eu cwrso i berfeddion y wlad, pe bai’n gwybod o fewn 183 o flynyddoedd y byddai ei ddisgynyddion ymhlith y bobol dlotaf, lleiaf addysgiedig ac yn marw saith mlynedd yn iau ar gyfartaledd na phobol eraill nad ydyn nhw’n Māori, a fyddai dal wedi llofnodi?” meddai.