Bydd menywod ifanc o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Senedd heddiw (Mawrth 7), ar ôl cael y cyfle i gysgodi Aelodau’r Senedd ac edrych ar waith mewnol bywyd gwleidyddol Cymru.
Mae Chwarae Teg, elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru, yn cynnal prosiect LeadHerShip i fenywod 16-22 oed, er mwyn ysbrydoli cenhedlaeth o fenywod ym maes arweinyddiaeth yn y dyfodol.
Mae rhai o’r merched ifanc sy’n cymryd rhan yn y diwrnod wedi bod yn lleisio eu barn ynglŷn â Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023, ac yma mae Hana Williams, sy’n 16 oed ac yn dod o Gaerdydd, yn rhannu ei meddyliau ac yn ystyried pam ei bod hi’n bwysig ei nodi a dathlu’r diwrnod.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle arbennig i amlygu’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni wrth frwydro dros gydraddoldeb, i feddwl beth sydd angen ei wella ac i ystyried y camau nesaf. Gallwn weld hyn yn glir drwy edrych ar ein Senedd. Roedd y ffaith mai Senedd Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd rhwng dynion a merched yn 2003 wir yn fater i’w ddathlu, ond mae’r ffaith fod wyth yn fwy o ddynion na merched yn Aelodau erbyn heddiw yn profi na allwn byth laesu dwylo.
Gan fy mod wedi bod yn ddigon ffodus i gael byw ym Mhen Llŷn ac yng Nghaerdydd, rwyf wedi gweld dros fy hun fod y cyfleoedd i bobol ifanc ddysgu am bwysigrwydd cydraddoldeb yn amrywio o ardal i ardal. Prin oedd y cyfleoedd pan oeddwn yn mynychu ysgol uwchradd fychan yng nghefn gwlad, tra yn fy ysgol bresennol mae sawl cyfle gan gynnwys grŵp ‘Newid Ffem’ sy’n ffordd wych o drafod hawliau genethod a magu hyder.
Teimlaf yn gryf y dylai’r un cyfleoedd fod ar gael i bob merch ifanc yn hytrach na i rai drwy hap a siawns daearyddol a ddim i eraill. I hyn ddigwydd, dylai pob ysgol ym mhob rhan o Gymru annog pobol ifanc i drafod materion cydraddoldeb.
Credaf hefyd fod potensial sylweddol i wneud y Diwrnod yn fwy gweladwy ar y cyfryngau cymdeithasol fel bod pobol ifanc o Ben Llŷn i’r Barri yn gallu cyfrannu i’r broses a deall pwysigrwydd siarad i fyny pan nad ydym yn cael ein trin yn deg.