Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV i Gymru yn y Senedd.
Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru, bydd y cynllun yn helpu i fynd i’r afael â stigma i’r rhai sy’n byw â’r cyflwr, ac i leihau a dileu heintiadau newydd.
Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â gweithgor y Cynllun Gweithredu HIV, ac mae ei aelodaeth yn cynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r sector cymunedol a gwirfoddol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion a phobol sy’n byw â HIV.
Fis Mehefin y llynedd, roedd ymgynghoriad ar gynllun gweithredu drafft ac er iddo gael “derbyniad da”, yn ôl Eluned Morgan, “roedd yr adborth yn tynnu sylw at rai bylchau a meysydd i’w gwella”, meddai.
Dywed fod y cynllun wedi’i gryfhau yn dilyn yr ymgynghoriad.
Pum maes blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu yw atal, profi, gofal clinigol, byw’n dda gyda HIV, a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â HIV.
Mae 30 o gamau gweithredu “uchelgeisiol, ond cyraeddadwy, i’w gweithredu erbyn 2026, a fydd yn cyfrannu llawer at helpu Cymru i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddim heintiadau HIV newydd erbyn 2030, ac yn bwysig iawn, i arddel agwedd sy’n golygu na fydd dim goddefgarwch i stigma sy’n gysylltiedig â HIV”, meddai Eluned Morgan.
Platfform ar-lein ar gyfer profion
“Yr haf diwethaf, cyhoeddais ein hymrwymiad i ariannu a datblygu ymhellach y platfform ar-lein ar gyfer profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol,” meddai wedyn.
“Mae hwnnw wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau ac wedi gwneud profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys profion HIV, yn fwy hygyrch.
“Mae hyn, ynddo’i hun, yn helpu i leihau stigma.
“Rwy’n ymrwymo £600,000 o arian pellach i gefnogi camau allweddol eraill yn y cynllun, gan gynnwys sefydlu system rheoli achosion, a fydd yn helpu i wella profiad cleifion a sicrhau gwyliadwriaeth fwy cywir ac amserol o brofion a diagnosis HIV.
“Mae hyn hefyd yn cynnwys cymorth i sefydlu cefnogaeth Llwybr Carlam Cymru ar gyfer rhaglen gymorth cymheiriaid genedlaethol, a chymorth i Wythnos Profi HIV yng Nghymru.
“Yn ei gyfanrwydd, cefnogir y cynllun â phecyn cyllido o £4.5m.
“Bydd grŵp goruchwylio gweithredu yn sicrhau y bydd y 30 cam gweithredu yn cael eu datblygu a’u cyflawni.
“Byddaf yn adrodd am y cynnydd sydd wedi’i wneud ar y 30 cam gweithredu yn flynyddol i’r Senedd.
“Rydym yn cychwyn ar daith gyffrous, a all gyflawni newid go iawn.
“Rwy’n credu’n gryf y gallwn ni ac y byddwn ni, drwy roi’r cynllun gweithredu hwn ar waith, yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n byw gyda HIV heddiw ac y gallwn oll edrych ymlaen gyda gobaith gwirioneddol na fydd neb yn cael diagnosis o HIV o’r newydd yng Nghymru erbyn 2030.”