Mae Cynghorydd Annibynnol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno deiseb yn galw am refferendwm cyn cynyddu nifer Aelodau’r Senedd o 60 i 96.

Mae Nigel Dix yn awyddus bod y Senedd yn ceisio cydsyniad pobol Cymru cyn bwrw ymlaen â’r cynlluniau fyddai’n gweld Cymru’n elwa ar 36 o Aelodau ychwanegol ym Mae Caerdydd.

Mae’r ddeiseb wedi’i chyflwyno i Bwyllgor Deisebau’r Senedd i’w hystyried.

Yn ôl Nigel Dix, daw’r cynlluniau ar “adeg o galedi economaidd i bobol Cymru”.

“Tra bod nifer yn ei chael hi’n anodd bwydo a gwresogi eu hunain, mae gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn mynnu ein bod ni, drethdalwyr, yn ariannu 36 Aelod drud arall o’r Senedd, eu staff ychwanegol a geriach grym cysylltiedig,” meddai.

“Credwn, ar yr adeg hon o argyfwng, y dylid buddsoddi unrhyw arian sydd ar gael mewn gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach, megis Gwasanaeth Iechyd Cymru a’r sector gofal, gyda dirfawr angen i’r ddau gael adnoddau gan Lywodraeth Cymru.

“Yn ystod refferendwm 2011 ar bwerau deddfu, roedd Aelodau uwch y Senedd yn mynnu na fyddai pleidlais dros Ie yn arwain at ragor o wleidyddion.

“Ond eto, mae gweinidogion a gwleidyddion Plaid Cymru bellach yn weithgar yn ceisio cynyddu’n ddramatig nifer yr Aelodau cyn etholiad nesa’r Senedd yn 2026.”