Mae pobol Cymru ar eu hennill pan fo gan Blaid Cymru le wrth y bwrdd, yn ôl y blaid, sy’n brolio bod y Cytundeb Cydweithio â’r Llywodraeth Lafur wedi sicrhau pedair miliwn o brydau ysgol rhad ac am ddim ychwanegol i blant y wlad.

Daw sylwadau’r blaid wrth iddyn nhw gadarnhau bod y cyllid wedi’i ddiogelu er mwyn i’r cynllun barhau.

Mae gwarchodaeth wedi’i rhoi i bob un o’r 46 o feysydd sy’n rhan o’r rhaglen bolisi ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llafur fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

Maen nhw hefyd wedi diogelu’r arian ar gyfer cynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw er mwyn helpu’r rhai mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf.

Mae’r cyllid newydd yn cynnwys £40m i helpu’r rhai sydd ag anawsterau o ran eu morgais, yn debyg i’r Cynllun Achub Morgeisi gafodd ei gyflwyno gan y cyn-arweinydd Ieuan Wyn Jones a Jocelyn Davies o’r Blaid Lafur o dan Lywodraeth Cymru’n Un adeg yr argyfwng ariannol yn 2008.

Bydd manylion llawn yr hyn sydd wedi’i gytuno’n cael eu datgelu heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 7), cyn i’r Gyllideb derfynol gael ei chraffu a chyn pleidlais arni yn y Senedd.

‘Buddsoddiad uniongyrchol yn nyfodol ein cenedl’

“Mae pedair miliwn o brydau ysgol rhad ac am ddim ychwanegol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn nyfodol ein cenedl,” meddai Llŷr Gruffydd, llefarydd cyllid Plaid Cymru.

“Mae’r diolch i ymgyrchu gan Blaid Cymru fod y fenter bwysig hon yn y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru.

“Heb amheuaeth, ar adeg pan fo costau cynyddol yn gorfodi gormod o deuluoedd i ddewis rhwng gwresogi eu cartrefu neu dwymo eu bwyd, mae darparu pryd twym maethlon yn yr ysgol wedi helpu i leddfu peth o’r pwysau yn ystod yr amserau anodd hyn.

“Bydd y newyddion heddiw fod y cyllid ar gyfer y fenter hon wedi cael ei gwarchod yn helpu i amddiffyn ein plant rhag difrod llymder Torïaidd am flynyddoedd i ddod.

“Yn amlwg, mae llawer mwy yr hoffen ni ei wneud, ond gall aelodau Plaid Cymru – ac yn wir, ein cenedl yn ehangach – fod yn falch ein bod ni yma yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth cyffyrddadwy i’r rhai sydd eu hangen mwyaf.”