Yr unig ffordd o atal pobol rhag gwneud siwrnai peryglus dros y Sianel i’r Deyrnas Unedig ydy drwy sicrhau bod yna ffyrdd diogel a chyfreithlon ar gael iddyn nhw, medd Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Daw eu sylwadau wrth i’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman gyhoeddi deddfwriaeth newydd yn San Steffan i geisio atal pobol rhag croesi ar gychod bychain.

Byddai’r bil newydd yn gwahardd pobol sy’n dod i’r Deyrnas Unedig yn “anghyfreithlon” rhag ceisio lloches a chael mynediad eto yn y dyfodol.

Wrth fanylu ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon arfaethedig yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Suella Braverman y byddai’n caniatáu i bobol sy’n croesi’r Sianel gael eu cadw yn y ddalfa heb fechnïaeth nac adolygiad barnwrol am y 28 niwrnod cyntaf wedi iddyn nhw gael eu harestio, nes bod posib eu symud o’r Deyrnas Unedig.

Byddai dyletswydd hefyd ar yr Ysgrifennydd Cartref i allforio ffoaduriaid sy’n cyrraedd dros y sianel “cyn gynted ag sy’n rhesymegol ymarferol”.

Ynghyd â hynny, byddai’r bil yn golygu bod y Senedd yn cyflwyno cap ar nifer y ffoaduriaid fyddai’n cael ailsefydlu yn y Deyrnas Unedig drwy “lwybrau diogel a chyfreithlon”.

‘Dim llwybrau diogel’

Wrth ymateb, dywed Cyngor Ffoaduriaid Cymru fod y syniad bod y Deyrnas Unedig yn cael ei “llethu gan geiswyr lloches yn nonsens”.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth y Deyrnas Unedig dderbyn 80,000 o geiswyr lloches, tra bod Ffrainc wedi derbyn 180,000 a’r Almaen 80,000.

“Mae Rishi Sunak eisiau allforio pobol sy’n cyrraedd ar gychod bychain,” meddai Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

“Ond does gan nifer o bobol ddim opsiynau. Dim llwybr. Dim opsiynau.

“Er enghraifft, os ydych chi’n dianc rhag cyfundrefn Iran, yn dilyn y protestiadau dros hawliau menywod, sut fyddech chi’n dod i’r Deyrnas Unedig?

“Yn syml, does yna ddim llwybr diogel.

“Tra bo rhyfel a gwrthdaro yn y byd, bydd yna bobol yn ceisio lloches.

“Yr unig ffordd o stopio pobol rhag croesi’r Sianel mewn ffyrdd peryglus ydy sicrhau bod llwybrau diogel a chyfreithlon ar gael.

“Mae’n syml iawn, rydyn ni angen llwybrau diogel nawr.”

‘Cenedl noddfa’

Fe wnaeth tua 45,000 o bobol groesi’r Sianel i’r Deyrnas Unedig y llynedd, sy’n gynnydd o ryw 300 o’i gymharu â 2018.

Mae Plaid Cymru wedi ailadrodd y neges bod Cymru’n Genedl Noddfa, ac yn dweud bod bil arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos “diffyg dynoliaeth llwyr tuag at bobol sydd wedi gwneud taith beryglus i chwilio am noddfa”.

“Yr unig ateb ymarferol yw creu llwybrau diogel i geiswyr lloches,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, yn ystod y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 7).

“Fe wnaeth Safaa, sy’n ffoadur o Syria, ddianc o Daesh er mwyn ei diogelwch i achub ei bywyd.

“Mae hi’n meddwl y bydd cynlluniau’r llywodraeth yn gwneud i eraill yn ei sefyllfa deimlo’n hunanleiddiol.

“Dywedodd wrtha i: ‘Gyda pholisi’r llywodraeth, pan rydych chi’n cyrraedd mae’r freuddwyd yn cael ei chwalu, mae hi’n diflannu. Ond eto mae fy nheulu wedi setlo yng Nghymru ac yn cyfrannu tuag at y gymdeithas.’

“Dw i eisiau dweud wrth Safaa bod yna groeso iddi ac ein bod ni eisiau iddi aros cyn hired ag sydd rhaid.

“Be sydd gan yr Ysgrifennydd Cartref i’w ddweud wrth Safaa?”

Yn ei hymateb, dywedodd Suella Braverman ei bod hi’n “falch iawn o’n record wrth groesawu pobol sy’n ffoi rhag rhyfel, erlyniaeth a mathau eraill o wrthdaro boed o Affganistan, Syria neu Hong Kong drwy lwybrau dyngarol”.